Carwyn Jones
Dywedodd Prif Weinidog Cymru heddiw bod yn rhaid “gwneud yn siŵr” fod Llywodraeth y DU yn cadw at ei addewid i gyflwyno rhagor o bwerau datganoledig i Gymru o fewn 100 diwrnod i’r etholiad cyffredinol.
Yn gynharach heddiw, roedd y BBC wedi adrodd ei bod hi’n annhebygol y bydd rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i Gymru yn ystod blwyddyn gyntaf Llywodraeth newydd San Steffan.
Yn ôl y BBC, hyd yn oed os fyddai Mesur Cymru yn cael ei grybwyll yn Araith y Frenhines ar 27 Mai, ni fydd yn trafod un o’r deddfau newydd.
Roedd y Canghellor George Osborne wedi addo deddf ar ymweliad i Bowys yn ystod yr ymgyrch etholiadol y byddai’n rhoi mwy o bwerau i Gymru yn y 100 diwrnod cynta’ petai’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wrth y BBC bod cymryd amser i wneud pethau’n gywir yn bwysicach na rhuthro’r broses, gan ychwanegu bod Cymru wedi dioddef o’r blaen trwy gael deddfwriaeth ynghylch datganoli sydd wedi cael ei hysgrifennu’n wael neu’n amwys.
‘Cadw addewid’
Wrth ymateb i gwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, meddai Carwyn Jones nad oedd hi’n amlwg pa effaith y bydd Llywodraeth fwyafrif Geidwadol yn San Steffan yn ei gael ar Gymru.
Ond ychwanegodd y byddai’n siarad gyda David Cameron ar y ffôn yn fuan ac y byddai’n pwysleisio fod rhaid symud ymlaen gyda Mesur Cymru fel yr addawyd yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Meddai mai’r peth cyntaf i wneud yw “gwneud yn siŵr fod yr addewid o ragor o bwerau mewn 100 diwrnod yn cael ei gadw.”
‘Bargen deg i Gymru’
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, hefyd wedi galw ar Stephen Crabb i fod yn glir am safbwynt ei blaid ar ariannu teg i Gymru.
Meddai Kirsty Williams fod y Llywodraeth Glymblaid wedi cyhoeddi ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni y byddai’n cyflwyno cyllido sylfaenol ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr wedi ei yn gwneud yn glir y byddai hynny ddim ond yn cael ei gyflwyno “unwaith mae Llywodraeth Cymru yn galw refferendwm ar bwerau Treth Incwm yn y Senedd nesaf.”
Dywedodd Kirsty Williams: “Mae’n bryd i’r Torïaid fod yn onest am ariannu teg. Y peth cyntaf y mae’n rhaid Stephen Crabb ei wneud yw bod yn onest ynghylch a fydd ei blaid yn rhoi cyllid teg heb unrhyw amodau ynghlwm i Gymru.
“Rwy’n pryderu gyda’r Torïaid yn y Llywodraeth ar eu pen eu hunain, na fydd bellach unrhyw awydd i sicrhau bod Cymru’n cael bargen deg.
“Mae’n rhaid i Gymru dderbyn cyllid teg – heb os. Gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth, fe wnaeth y Glymblaid addo cyflwyno bargen deg i Gymru heb unrhyw amodau ynghlwm, ac mae’n rhaid i’r Torïaid gadw at y cytundeb hwn.”