Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb
Mae’n annhebygol y bydd rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i Gymru yn ystod blwyddyn gyntaf Llywodraeth newydd San Steffan mewn grym.
Yn ôl y BBC, hyd yn oed os fyddai Mesur Cymru yn cael ei grybwyll yn Araith y Frenhines ar 27 Mai, ni fydd yn trafod un o’r deddfau newydd.
Roedd y Canghellor George Osborne wedi addo deddf ar ymweliad i Bowys yn ystod yr ymgyrch etholiadol y byddai’n rhoi mwy o bwerau i Gymru yn y 100 diwrnod cynta petai’r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wrth y BBC bod cymryd amser i wneud pethau’n gywir yn bwysicach na rhuthro’r broses, gan ychwanegu bod Cymru wedi dioddef o’r blaen trwy gael deddfwriaeth ynghylch datganoli sydd wedi cael ei hysgrfiennu’n wael neu’n amwys.
Dywedodd Stephen Crabb wrth BBC Cymru: “Y cyfreithwyr yw’r unig bobl sy’n cael budd o hynny. Felly, rwyf am gymryd yr amser i gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn.”