Mark Drakeford
Fe fydd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru heddiw yn cyhoeddi “newidiadau mawr” i’r ffordd y mae pobol sydd angen gofal iechyd cyson yn cael eu hasesu.
O dan y newidiadau, caiff y rheolau eu symleiddio a bydd nifer y bobol sydd angen pecyn gofal iechyd – sy’n cydnabod anghenion unigol plant ac oedolion- yn cael ei leihau.
Dywedodd y Llywodraeth bod y dulliau asesu ledled Cymru yn aml yn anghyson ar hyn o bryd.
Maen nhw hefyd yn honni bod y newidiadau, fydd yn dod i rym ym mis Ebrill, yn rhan o rai o “ddiwygiadau mwyaf pellgyrhaeddol” ym maes gofal cymdeithasol ers 60 mlynedd.
Awdurdodau lleol
Bydd y trefniadau newydd yn canolbwyntio ar waith awdurdodau lleol gyda phobol a’u gofalwyr a’u teuluoedd i nodi cryfderau, capasiti a gallu i wneud y gorau o lesiant ac annibyniaeth unigolyn.
“Mae’n gweddnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n newid pellgyrhaeddol y dylai Cymru fod yn falch ohono,” meddai’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.
“Yn ei hanfod, mae’n canolbwyntio ar bobol mewn ffordd sy’n rhoi llais cryfach iddyn nhw a mwy o reolaeth ar eu bywydau.
“Mae’n canolbwyntio ar allu pobl, yn ogystal â’r anghenion sydd ganddyn nhw – mae hyn yn cydnabod bod pobol eisiau cadw rheolaeth ar yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw.