Mae pob un o seddi Cymru bellach wedi eu cyhoeddi, gyda’r Ceidwadwyr yn ennill tair sedd ychwanegol yn groes i’r disgwyl.
Roedd y blaid wedi gobeithio ennill Brycheiniog a Sir Faesyfed, ond llwyddodd y Ceidwadwyr i fachu Gŵyr a Dyffryn Clwyd yn ogystal.
Daeth y buddugoliaeth yng Ngŵyr o 27 pleidlais yn unig, mewn sedd yr oedd Llafur wedi ei chadw ers 1910. Dyma etholiad orau y Ceidwadwyr yng Nghymru ers 1983.
Roedd hi’n noson siomedig i’r Blaid Lafur, a fethodd a chipio Gogledd Cardydd, a hefyd i Blaid Cymru, a arhosodd yn ei hunfan ar dair sedd.
Bu’n noson drychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth iddynt golli bob sedd ond Ceredigion.
Llwyddodd Jo Stevens i drechu Jenny Willott yng nghanol Caerdydd, ond dyna eu hunig buddugoliaeth dros blaid arall yn y wlad.
Daeth Plaid Cymru o fewn 200 pleidlais o gipio Ynys Môn, ond redden nhw’n weddol fodlon wrth gadw Arfon a Dwyrain Caerfyrddin gan gynnyddu eu mwyafrifoedd ynddynt.
Roedd y canlyniadau yng Nghymru yn adlewyrchu rheini’n Lloegr, wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol chwalu a’r Ceidwadwyr barhau’n fwy gwydn na’r disgwyl yn wyneb ymosodiad y Blaid Lafur.
Er na lwyddodd UKIP i ennill unrhyw seddi yng Nghymru, symudodd i’r drydedd safle, gan wthio Plaid Cymru i bedwerydd.
Rhagor i ddilyn…