Ifan Morgan Jones sy’n nodi’r seddi y dylid cadw golwg arnynt yng Nghymru o awr i awr, a’r canlyniadau tebygol…

Rydw i wedi gosod y seddi yn nhrefn diddordeb, a pa ffordd y maent yn debygol o bleidleisio (penderfyniad hollol oddrychol ar fy rhan i – cewch chwerthin ar fy mhen os ydw i’n anghywir).

1.30am: Erbyn hyn dylid dechrau cael syniad da o’r ffordd y mae’r gwynt yn chwythu mewn sawl etholaeth. Bydd y blychau pleidleisio yn cyrraedd a’r newyddiadurwyr a’r ymgyrchwyr yn gallu gweld ar ba fyrddau y mae’r pentyrrau mwyaf.

Dyffryn Clwyd – Er mai dim ond gogwydd o 3.6% sydd ei angen ar y Ceidwadwyr i ennill y sedd, mae Llafur yn ffefrynnau clir gyda’r bwcis.

2.00am: Mae nifer o seddi y mae Plaid Cymru yn gobeithio eu cadw a’u cipio yn y fantol tua’r adeg yma. Hyd yn oed os nad oes seddi yn newid dwylo, gallai roi ryw syniad i ni o obeithion y Blaid yn seddi allweddol Arfon a Cheredigion yn ogystal.

Ynys Môn: Prif sedd darged Plaid Cymru. Dim ond gogwydd 3.6% sydd ei angen arnynt i’w chipio. Efallai y byddwn nhw’n cael help llaw gan ymgeisydd UKIP, Nathan Gill, yma.

Llanelli: Mae Plaid Cymru wedi bod yn gweithio’n galed yma er mwyn ceisio cipio’r sedd oddi ar Nia Griffith. Serch hynny, mae Llafur yn gymharol sicr o’i chadw.

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: Bydd disgwyl i Jonathan Edwards o Blaid Cymru gadw’r sedd hon yng ngwyneb her gan ymgeisydd y Blaid Lafur, Calum Higgins. Mae’r sedd yn rhif 66 ar restr targed Llafur. Os ydyn nhw’n cipio hon, fe fydd yn noson dda iawn iddynt.

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro: Sedd gweddol gyfforddus i Simon Hart o’r Ceidwadwyr, ond bydd Llafur yn gobeithio gadael tolc yn ei fwyafrif.

Dwyfor Meirionnydd: Sedd saff i Blaid Cymru ac mae’n debygol y bydd Liz Saville-Roberts yn cael ei hethol yn AS benywaidd cyntaf y blaid.

Blaenau Gwent: Sedd hynod o saff i’r Blaid Lafur, ond fe fydd yn ddiddorol gweld a fydd UKIP yn ennill rhywfaint o dir yma.

2.30am:

Sir Drefaldwyn: Dyma brif sedd darged y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Dim ond o drwch blewyn y cipiodd Glyn Davies y sedd oddi ar Lembit Opik yn 2010. Serch hynny mae’r Ceidwadwyr yn ffefrynnau i’w cadw.

Gallai fod yn arwydd cynnar serch hynny o raddfa chwalfa tebygol pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol mewn seddi cyfagos yn y canolbarth.

(Nid yw’n sicr wrth gwrs y byddai cwymp ym mhleidlais y blaid yma yn golygu’r un peth yng Ngheredigion a Brycheiniog a Sir Faesyfed – fe ymatebodd y seddi rhain mewn ffyrdd gwahanol iawn yn 2010.)

Os yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyddo i’w chymryd yn ôl, fe fydd yn ganlyniad anhygoel iddynt ac yn arwydd eu bod yn fwy gwydn yng Nghymru nag y mae rhai wedi tybio.

3.00am: Fe fydd mwyafrif y seddi yn dod i mewn tua’r amser yma – nifer ohonynt yn seddi saff i’r Blaid Lafur yn y gogledd a’r de ddwyrain. Ond mae ambell i sedd all fynd y naill ffordd yn eu mysg.

Arfon: Fe allai’r sedd hon benderfynu i raddau helaeth sut noson fydd hi i Blaid Cymru. Maent yn gobeithio cipio Ynys Môn a Cheredigion, ond byddai colli yma yn drychinebus.

Dyma un o brif seddi targed y Blaid Lafur yn genedlaethol, ac mae’r ymgeisydd Alun Pugh wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ers dros flwyddyn er mwyn ceisio mynd â hi.

Brycheiniog a Sir Faesyfed: Prif sedd darged y Ceidwadwyr yng Nghymru. Fe fu David Cameron yn ymweld yma ddoe. Serch hynny mae y Democratiaid Rhyddfrydol dal yn ffefrynnau I’w chadw, wedi pôl piniwn gan yr Arglwydd Ashcroft a oedd yn awgrymu eu bod nhw ar y blaen.

Mae gan y sedd hon arwyddocâd cenedlaethol – os yw’r Ceidwadwyr yb methu a’i chadw fe fydd sicrhau mai nhw yw’r blaid fwyaf mewn senedd grog yn dalcen caled.

Aberconwy: Bydd y Ceidwadwr Guto Bebb yn gobeithio cadw un o seddi targed y Blaid Lafur. Ond bydd UKIP yn gobeithio ennill tir yma yn ogystal ar ôl gwneud yn dda yn etholiadau Ewrop. Allai cynnydd mawr yn eu pleidlais fod yn ddigon i ddymchwel gobeithion Bebb?

Bro Morgannwg: Mae’r polau piniwn cenedlaethol yn awgrymu y dylai hon fod yn frwydr agos rhwng y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur. Ond awgrymodd pol piniwn gan yr Arglwydd Ashcroft bod y Ceidwadwyr yn gyfforddus ar y blaen.

Aberafan: Mae disgwyl coroni un o’r ‘Tywysogion Coch’, mab Neil Kinnock, Stephen, yn ddi-ffwdan yma.

Gŵyr: Mae gan y Ceidwadwyr siawns ymylol o gipio’r sedd hon o ddwylo Llafur. Dydw i ddim yn disgwyl iddi newid dwylo os nad yw’n noson arbennig o dda i’r Toriaid.

Alun a Glannau Dyfrdwy: Sedd agos rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr. Bydd UKIP yn gobeithio gwneud yn dda yma – maen nhw’n 22/1 i’w chipio.

Merthyr Tudful a Rhymni: Sedd saff arall i Lafur wedi ymgais lew i’w chipio gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010. Unwaith eto bydd UKIP yn gobeithio gwneud yn weddol yma.

Gorllewin Casnewydd: Sedd arall lle’r oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gystadleuol yn 2010, ond yn annhebygol o herio’r tro yma!

Gorllewin Abertawe: Ditto.

De Clwyd: Sedd gweddol saff i Lafur, wedi I’r Ceidwadwyr fethu a’i chipio yn 2010.

Gorllewin Clwyd: Sedd saff i gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

Delyn: Mae’r Aelod Cynulliad Mark Isherwood wedi penderfynu ymgeisio am y sedd hon. A fydd yn ei chipio? Mae’n annhebygol, yn ôl y bwcis.

Castell-nedd: Sedd saff i Lafur yn y Cymoedd. Serch hynny mae’n newid cyfnod wrth i Peter Hain gamu o’r neilltu yma.

Gorllewin Casnewydd: Sedd Paul Flynn y Blaid Lafur. Mae arweinydd y Blaid Werdd, Pippa Bartolotti, yn ymgeisydd yma.

Dwyrain Abertawe: Sedd saff i Lafur. Dim byd i’w weld yma, symudwch ymlaen…

Wrecsam: Ac eto…

3.30am:

Torfaen: Yr unig gyffro posib yma fydd maint pleidlais UKIP. Mae Paul Murphy wedi camu o’r neilltu.

4.00am:

Ceredigion: Fe fyddai yn noson dda iawn i Blaid Cymru ac yn noson drychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol pe bai Mike Parker yn chwalu mwyafrif iach Mark Williams yma. Dydw i ddim yn credu y bydd yn digwydd, ond fe allai’r Blaid ostwng mwyafrif anferth y Democratiaid Rhyddfrydol i fil neu ddwy.

Preseli Penfro: Sedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, sydd hefyd ar restr darged y Blaid Lafur. 7/2 yw ods y bwcis eu bod nhw’n ei chipio hi.

Pen y Bont ar Ogwr: Sedd gweddol saff i’r Blaid Lafur, er bod y Ceidwadwyr yn gystadleuol.

Caerffili: Sedd saff i Lafur, ond un lle y mae Plaid Cymru wedi bod yn ceisio ennill troedle.

Islwyn: Sedd saff i Lafur. Eto fe fyddai yn werth cadw llygad ar bleidlais UKIP.

Ogwr: Dittto.

Sir Fynwy: Sedd saff i’r Ceidwadwr David Davies (na, nid David Davis).

5.00am:

Cwm Cynon: Un arall o’r seddi saff i Lafur lle y bydd UKIP yn gobeithio cynyddu eu pleidlais.

Pontypridd: Sedd saff i Lafur. Yma mae Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Owen Smith, yn trigo.

Y Rhondda: Fe fydd ymgeisydd Plaid Cymru, Shelley Rees-Owen, yn gobeithio braeanu’r tir ar gyfer ymgais Leanne Woood I gipio’r etholaeth yn Etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

6.00am: Seddi Caerdydd fydd yr olaf i ddatgan, tua’r adeg yma o’r bore. Os ydych chi dal yn effro, rydach chi’n haeddu ryw fath o wobr bid siwr. Os nad oes unrhyw seddi yng Nghymru wedi newid dwylo eto, mae bron yn sicr o ddigwydd yma.

Gogledd Caerdydd: Dyma sedd darged rhif pedwar y Blaid Lafur ar draws Prydain. Os nad ydyn nhw’n ennill hon bydd rhywbeth mawr wedi mynd o’i le! Yn ôl pôl piniwn gan yr Arglwydd Ashcroft roedd Llafur ymhell ar y blaen i’r Ceidwadwyr yma.

Canol Caerdydd: Mae sefyllfa debyg yma, ond gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio atal y Blaid Lafur. Fel yng ngogledd Caerdydd, roedd pol piniwn gan Ashcroft yn awgrymu bod Llafur yn sicr o gipio’r sedd. Mae wedi gweld sawl ymweliad gan arweinwyr y pleidiau, gan gynnwys Nick Clegg dydd Mercher.

De Caerdydd a Phenarth: Sedd saff i’r Blaid Lafur.

Gorllewin Caerdydd: Ditto.

A dyna ni! Os ydych chi wedi goroesi’r cyfan, rydych chi’n anorac gwleidyddol go iawn. Ond peidiwch a mynd i’r gwely eto, mae cyffro y dadlau dros ffurfio llywodraeth ar fin dechrau…