Ardal y Gaer (CCA 3.0 - deunydd yr Arolwg Ordnans)
Mae dau fachgen 15 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau un o’r tanau glaswellt sydd wedi bod yn bla yn ne Cymru.

Mae’r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu holi am dân a oedd wedi ei gynnau’n fwriadol yn ardal y Gaer o Gasnewydd ddechrau’r wythnos ddiwetha’.

Ac mae Heddlu Gwent wedi pwysleisio y peryg o gynnau tanau a’r tebygrwydd y bydd troseddwyr yn wynebu carchar.

“Yn ogystal â difrodi cefn gwlad, bywyd gwyllt a’r amgylchedd, mae tanau glaswellt sy’n cael eu cynnau’n fwriadol yn achosi peryg gwirioneddol i’r cyhoedd, yn enwedig os ydyn nhw’n agos at adeiladau,” meddai’r Arolygydd Neil Muirhead.

“Rhaid i bwy bynnag sy’n gyfrifol fyw gyda chanlyniadau’r difrod a hefyd y posibilrwydd o anafu aelodau o’r cyhoedd. Fe fyddan nhw hefyd yn wynebu achos llys a allai arwain at garchar.”