Daniel Glyn
Mae trefnwyr Gŵyl Gomedi Machynlleth wedi cyhoeddi pwy fydd yn perfformio yno’r penwythnos hwn.
Bydd yr ŵyl, sy’n debygol o ddenu mwy na 4,000 o bobol ac sydd wedi’i threfnu gan Daniel Glyn, yn cychwyn nos Wener efo dwy sesiwn yn Royal House ac Ysgol Bro Hyddgen.
Yn Royal House am 7 o’r gloch, mi fydd Steffan Alun, Gethyn Robyns a Phil Cooper yn diddanu’r dorf, cyn i’r Gala Gomedi gychwyn yn Ysgol Bro Hyddgen am 8.30yh.
Ddydd Sadwrn, mi fydd sioe ‘Hen Ddynion, Jôcs Newydd’ yng ngofal Daniel Glyn a Jams Thomas yng Nghanolfan Owain Glyndŵr am 1 o’r gloch, tra bydd ‘Goreuon Standup Cymraeg’ am 7 o’r gloch yn yr un lleoliad.
Bydd diwrnod cyfan o gomedi ddydd Sul, gan ddechrau am 11 o’r gloch y bore, pan fydd Daniel Glyn yn cynnal clwb comedi Cymraeg i blant yng Nghanolfan Owain Glyndŵr.
Am 5.30yh ddydd Sul, mi fydd rhagor o ‘Oreuon Standup Cymraeg’ yn yr un lleoliad, tra bydd Tudur Owen yn ‘Pechu’ yn Y Plas am 7 o’r gloch, ac Elis James yn gyfrifol am ‘Gwaith Mewn Llaw’ yn y Stafell Billiards am 8.30yh.
‘Cefnogaeth’
Mewn datganiad, dywedodd y trefnydd Daniel Glyn: “Mae’r gefnogaeth gan drigolion lleol a siaradwyr Cymraeg sy’n ymweld â’r ŵyl wedi bod yn wych ers i ni ddod yma gyntaf yn 2010.
“Mae’r gefnogaeth yma wedi ein helpu i lywio’r arlwy Cymraeg, a cheisio cynnig rhywbeth i bawb.
Llynedd, trefnwyd Gala Gomedi yn ystod yr ŵyl, yn neuadd Ysgol Bro Hyddgen ynghanol y dref. Aeth holl elw’r noson at gronfa Canolfan Owain Glyndŵr.
“Y bwriad oedd defnyddio’r noson fel cyfle i ddiolch i Fachynlleth ei hun am y croeso rydym yn derbyn bob blwyddyn. Roedd yn noson a hanner, cynulleidfa wych, a chodwyd cannoedd o bunnoedd.”
Yn ddiweddar, gwelwyd Elis James ar y gyfres ‘Crims’ ar BBC3, ac mae sioe ‘Pechu’ gan Tudur Owen wedi bod ar daith lwyddiannus o amgylch Cymru.
Yr amserlen yn llawn:
Gwener, Mai 1
7yh – Steffan Alun, Gethyn Robyns, Phil Cooper – Royal House
8.30yh – Gala Gomedi Cymraeg – Ysgol Bro Hyddgen
Sadwrn, Mai 2
1yp – Daniel Glyn a Jams Thomas : Hen Ddynion, Jôcs Newydd -Canolfan Owain Glyndŵr
7yh – Goreuon Standup Cymraeg – Canolfan Owain Glyndŵr
Sul, Mai 3
11yb – Daniel Glyn: Clwb Comedi Cymraeg i Blant – Canolfan Owain Glyndŵr
5.30yh – Goreuon Standup Cymraeg – Canolfan Owain Glyndŵr
7yh – Tudur Owen: Pechu – Y Plas
8.30yh – Elis James:Gwaith Mewn Llaw – Stafell Billiards