Traeth Llangynydd ym Menrhyn Gŵyr
Mae cwest i farwolaeth dynes o Swydd Henffordd wedi clywed ei bod hi’n gwireddu breuddwyd wrth farchogaeth ceffyl ar draeth ym Mhenrhyn Gŵyr ar y diwrnod y bu farw.

Bu farw Geraldine Murray-Jones, 51, fis Gorffennaf diwethaf ar ôl disgyn o’i cheffyl ar y traeth a tharo’i phen ar y tywod ar draeth Llangynydd.

Roedd hi wedi gwella ar ôl dioddef o ganser y fron ac yn ceisio gwireddu nifer o’i breuddwydion.

Teithiodd hi i’r traeth o’i chartref yn Swydd Henffordd gyda’i ffrind fis Gorffennaf diwethaf.

Ceisiodd ei ffrind ac aelod o’r cyhoedd ei chynorthwyo cyn i Wylwyr y Glannau a’r Ambiwlans Awyr gyrraedd, ond bu farw yn y fan a’r lle.

Roedd hi’n fam i ddau o blant.

Clywodd y cwest ei bod hi’n farchogwraig profiadol ac yn gwisgo het ddiogelwch ond nad oedd hi wedi marchogaeth ar dywod o’r blaen.

Cafodd rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain ei gofnodi yn y cwest yn Abertawe.