Claire Dyer, o Dregŵyr ger Abertawe
Mae merch awtistig a’i theulu’n galw am adolygiad barnwrol yn dilyn yr hyn maen nhw’n ei alw’n fethiant ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod hi’n derbyn gofal yng Nghymru.

Cafodd Claire Dyer, 21, o Dregŵyr ger Abertawe, ei hanfon i Brighton ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg benderfynu nad oedd lleoliad addas ar ei chyfer yng Nghymru.

Cafodd deiseb ei sefydlu yn y gobaith o sicrhau y câi hi ddychwelyd adref – ac fe lofnododd 95,000 y ddeiseb honno.

Dychwelodd Claire, sy’n dioddef o awtistiaeth ac anableddau dysgu, adref yn 2014 ac mae ei theulu wedi bod yn gofalu amdani yn eu cartref yn Abertawe, gyda chymorth meddygon a gweithwyr iechyd.

Dywedodd ei mam, Catherine Dyer wrth Golwg360 ei bod hi’n teimlo bod yr adolygiad barnwrol yn rhy hwyr i’w merch, ond y gallai gynnig gobaith i deuluoedd mewn sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.

“Mae’n sefyllfa annheg. Mae Claire yn gallu bod mewn ‘crisis’ ar brydiau ond doedd dim angen ei hanfon hi ma’s o Gymru.

“Pam ddylen ni fel Cymry orfod mynd ma’s o Gymru, a neb yn helpu gyda’r costau?”

‘Cwestiynau i’w hateb’

Ychwanegodd Catherine Dyer fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod rhoi atebion i’r teulu ynghylch diffyg darpariaeth i gleifion awtistig yng Nghymru.

Mae Claire, yn ôl ei mam, wedi ymgartrefu unwaith eto ers dychwelyd i Gymru.

Ond mae’n bosib y bydd angen triniaeth ysbyty arni eto yn y dyfodol pe bai hi’n cael pyliau gwael yn sgil ei hawtistiaeth.

“Os daw hi i’r gwaethaf, byddai hi lot haws pe bai Claire rywle yng Nghymru. Pan oedd Claire yn Brighton, roedd hi’n llefain dros y ffôn a doedd neb o’i theulu yno i allu ei helpu hi.

“O leiaf y byddai gobaith o fynd i’w gweld hi pe bai hi yng Nghymru.”

Mae’r teulu bellach yn gobeithio dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i newid y gyfraith fel bod teuluoedd yn cael eu trin fel “partneriaid hafal” wrth wneud penderfyniadau am ofal i gleifion awtistig.

“Pam nad oes hawliau gan rieni os yw eu plant o dan ‘section’?”

Ymateb y bwrdd iechyd

Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: “Ni allwn wneud sylw yn benodol am yr achos hwn, gan nad oes gennym ganiatâd.

“Fel y dywedon ni eisoes:

Yn gyffredinol, rydym yn gwneud pob ymdrech i drefnu lleoliadau dros dro mor agos â phosib at gartref y claf fel bod eu teulu gerllaw.

“Mae’n bosib fod angen asesiad arbenigol ar gleifion a chanddynt gyflyrau unigol cymhleth, y mae’n rhaid eu cynnal mewn awyrgylch diogel am resymau diogelwch.

“Pan fo angen asesiad, rydym bob amser yn dechrau trwy gysylltu â’r gwasanaethau arbenigol agosaf at gartre’r claf.

“Yn anffodus, ar adegau ni allwn ddod o hyd i wasanaeth mor agos at gartre’r claf ag yr hoffem sydd yn gallu darparu’r asesiad arbenigol iawn, y gofal a’r diogelwch sydd eu hangen.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r pellter sy’n cael ei roi rhwng claf a’u teulu.

“Fodd bynnag, mae’r asesiad hwn yn hanfodol ac mae’r lleoliad yn un dros dro.

“Rydym yn paratoi i’r claf ddychwelyd yn agos i gartref mor fuan â phosib.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Byddai’n amhriodol gwneud sylw am achos claf penodol.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn darparu ac yn comisiynu gofal iechyd meddwl diogel yng Nghymru, fodd bynnag, mae gan rai pobol y fath anghenion arbenigol fel nad oes modd darparu ar eu cyfer yn lleol nac yng Nghymru.

“Yn yr achosion prin yma, gall byrddau iechyd drosglwyddo cleifion allan o’u hardal neu i Loegr i sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gofal mwyaf priodol ar gyfer eu cyflwr.

“Yn y fath achosion, dylai unigolion gael dychwelyd i’w hardaloedd mor fuan ag y mae’n ymarferol i hynny ddigwydd.

“Mae’r holl benderfyniadau am ofal a thriniaeth yn cael eu gwneud gan bobol broffesiynol ym maes gofal iechyd ar sail penderfyniad clinigwyr.”