Fe fydd dau ddyn yn cael eu dedfrydu heddiw wedi i dunnell o gocên gwerth £160 miliwn gael ei ddarganfod ar gwch a oedd ar ei ffordd i Gymru.

Cafodd cwch moethus y Makayabella ei atal gan lynges Iwerddon ym mis Medi’r llynedd. Roedd wedi croesi Môr Iwerydd o Dde America.

Yn ddiweddarach, fe gafodd cwch o’r enw Sea Breeze ym Mhwllheli ei archwilio gan yr heddlu ac fe gafodd pedwar dyn o ogledd Lloegr a dau o Iwerddon eu cadw yn y ddalfa.

Fe gydd Benjamin Mellor, 35, o Bradford a Thomas Britteon, 28, o Grimsby yn cael eu dedfrydu yng Nghorc, Iwerddon heddiw.