Y DJ Huw Stephens
Fe fydd ffocws ar Wrecsam yr wythnos yma wrth i gannoedd o artistiaid gyrraedd y dref ar gyfer pedwar diwrnod o ddigwyddiadau diwylliannol.

O heddiw tan ddydd Sadwrn, bydd dros 150 o fandiau a chomediwyr Cymreig a rhyngwladol yn perfformio a thros 5,000 o bobol yn dod i’w gwylio.

Dyma’r pumed tro i Ŵyl Ffocws Cymru gael ei chynnal yn Wrecsam ac mae’r trefnwyr yn ei disgrifio fel gŵyl sy’n “rhoi golau’r diwydiant cerddorol ar y dalent sydd gan Gymru i’w gynnig.”

Mae rhai o’r bandiau fydd yn chwarae ar un o’r 15 llwyfan ledled y dref yn cynnwys Y Bandana, Yucatan, Y Trwbz, Yr Eira,  Mellt a Chowbois Rhos Botwnnog.

Y DJ Radio 1 Huw Stephens fydd yn arwain y digwyddiadau nos Iau.

Bydd yr ŵyl dod i ben nos Sadwrn gyda pherfformiadau gan fandiau fel The Pale Blue Dots a Lleisiau’r Fro.