Cefin Campbell
Fydd y Gymraeg ddim yn iaith fyw yn Sir Ddinbych ymhen deng mlynedd os nad oes camau brys yn cael eu cymryd, yn ôl adroddiad newydd.
Yn y Cyfrifiad diwethaf yn 2011 dangosodd y ffigyrau mai dim ond 24.6% o drigolion y sir oedd yn medru siarad yr iaith, cwymp o 1.8% ers 2001.
Ac mae adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Dinbych yr wythnos hon yn tanlinellu argyfwng y sefyllfa, yn ôl adroddiadau.
‘Angen polisïau radical’
Llynedd fe ofynnodd y cyngor sir i Cefin Campbell, cynghorydd Plaid Cymru o Sir Gâr sydd hefyd yn ymgynghorydd iaith, i archwilio sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardal.
Ac mae’r adroddiad yn mynnu bod angen cymryd camau ar unwaith os nad yw’r Gymraeg am farw yn y sir, yn ôl y Denbighshire Free Press sydd wedi gweld copi o’r adroddiad.
“Mae’r deng mlynedd nesaf yn hanfodol,” meddai Cefin Campbell.
“Os nad oes polisïau radical a phellgyrhaeddol yn cael eu gweithredu, yn enwedig o fewn addysg a chymunedau, fe fydd yr iaith Gymraeg mewn sefyllfa argyfyngus.”
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn argymell Cyngor Sir Ddinbych i baratoi i symud ysgolion o gategori dwyieithog i fod yn ysgolion Cymraeg er mwyn gwella’r ddarpariaeth addysg.
Yn ogystal â hynny mae’r adroddiad yn galw ar y cyngor i recriwtio mwy o staff sydd yn siarad Cymraeg, ac annog eu staff a phobl sydd yn symud i’r sir i ddysgu’r iaith.
Mae’r adroddiad wedi cael ei groesawu gan Gymdeithas yr Iaith, sydd wedi dweud y dylai pob disgybl adael yr ysgol yn rhugl yn yr iaith ac y dylai’r cyngor ystyried gweithredu’n fewnol drwy’r Gymraeg.
Mewn ymateb fe ddywedodd Cyngor Sir Ddinbych y byddan nhw’n ystyried argymhellion yr adroddiad “uchelgeisiol” yn ofalus.
“Yn y cyfamser, fe fydd y cyngor yn parhau i hyrwyddo a hybu’r iaith Gymraeg drwy weithredu ei chynllun iaith Gymraeg sefydledig.”