Alwyn Pritchard
Mae dyn wedi cael ei garcharu am bedair blynedd a hanner wedi iddo ladd swyddog cymorth cymunedol yr heddlu ar ôl yfed a gyrru.

Roedd Paul Wilson wedi gwrthdaro â sgwter Alwyn Pritchard tra’n gyrru ar yr A465 ger Y Fenni ar Awst 23 y llynedd.

Cafodd ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw ar ôl pledio’n euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus mewn gwrandawiad cynharach.

Clywodd y llys sut yr oedd y gyrwr loriau, Paul Wilson, 38, o Lyn Ebwy, wedi bod yn yfed yn Y Fenni y noson honno cyn gyrru adref gyda ffrind yn teithio gydag o.

Wedi i’w Audi Quattro wrthdaro a sgwter Bugatti Alwyn Pritchard am tua 12:20, roedd wedi ffoi o’r lleoliad cyn ildio ei hun i’r heddlu am 7:48 y bore trannoeth.

Roedd Alwyn Pritchard, 53, a oedd yn swyddog cymorth cymunedol gyda Heddlu Gwent, wedi cael ei daflu 131 metr gan y gwrthdrawiad a bu farw yn y fan a’r lle.

Roedd system gyfrifiadurol yng nghar Paul Wilson yn dangos ei fod yn gyrru ar gyflymder o 119 milltir yr awr pan ddigwyddodd y ddamwain.