Caroline Lucas yn ymgyrchu yn erbyn ffracio yn Llundain

Mae cyn-arweinydd y Blaid Werdd wedi annog pobol i roi eu pleidlais i Blaid Cymru mewn ardaloedd lle nad oes ymgeisydd o’r blaid yn sefyll yng Nghymru.

Yn benodol mae Caroline Lucas, sef AS cyntaf y Blaid Werdd i gael ei hethol i Dŷ’r Cyffredin yn 2010, wedi annog pleidleiswyr i gefnogi ymgeisydd Arfon Hywel Williams yn yr etholiad cyffredinol y mis nesa’.

Daw’r alwad ar ôl i Blaid Cymru ofyn i Gymry sy’n byw yn Lloegr i bleidleisio tros y Gwyrddion.

Ynghyd a’r SNP, mae’r ddwy blaid yn bwriadu gweithio gyda’i gilydd yn Senedd San Steffan er mwyn gwrthod polisïau “llymder” y Ceidwadwyr a bwriad i adnewyddu Trident.

Cefnogaeth

Dywedodd Caroline Lucas: “Rwyf wedi gweithio gyda Hywel dros y pum mlynedd ddiwetha’ ac yn gwybod ei fod yn rhywun sydd gydag ymrwymiad cryf i gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.

“Fel mae Plaid Cymru wedi annog pobol yn Lloegr i gefnogi’r Gwyrddion, os nad oes ymgeisydd Gwyrdd yn sefyll dw i’n annog pleidleiswyr yng Nghymru i gefnogi ymgeiswyr fel Hywel Williams.”

Yn ôl gwefan y Gwyrddion, nid oes ymgeisydd o’r Blaid Werdd yn sefyll yn Arfon, Dwyrain Abertawe, Gorllewin Clwyd, Dyffryn Clwyd nag Ynys Môn.

‘Perthynas gynhyrchiol dda’

Wrth ymateb dywedodd Hywel Williams: “Mae gan Blaid Cymru berthynas weithiol dda a chynhyrchiol hefo’r Gwyrddion yn San Steffan.

“Dros y pum mlynedd ddiwetha’ rydym ni wedi ymddwyn fel grŵp ac mae hynny wedi bod yn llwyddiant mawr wrth sicrhau dadleuon ar lymder, wrth wrthwynebu toriadau gan Lafur a’r Ceidwadwyr a’r cynnig gwarthus i adnewyddu system arfau Trident ar gost o £100 biliwn.

“Rydym wedi annog pobol yn Lloegr i bleidleisio dros y Blaid Werdd ac rwy’n ddiolchgar iawn i Caroline am y gefnogaeth yma i Blaid Cymru a minnau fel ymgeisydd Arfon.”