Dewi Morris Jones, ar y dde
Mae golygydd a chyn-Bennaeth Adran Olygyddol y Cyngor Llyfrau Dewi Morris Jones o bentref Bronant, ger Tregaron wedi marw ar ôl salwch byr.
Bu’n gweithio am flynyddoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth fel tiwtor Llydaweg rhan amser yn Adran y Gymraeg.
Yn enedigol o’r Hendy–gwyn ar Daf, daeth yn rhugl yn y Ffrangeg ac yn y Llydaweg tra oedd yn byw ym Mrest am naw mlynedd.
‘Roedd wedi astudio gwaith y cenhadon a aeth, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, o Gymru i Lydaw i geisio troi’r bobl yno yn Brotestaniaid.
Roedd yn un o’r tîm a greodd y Scrabble Cymraeg gyda’r awdur Meinir Pierce Jones ac roedd hefyd yn weithgar iawn gyda Phlaid Cymru yn ei fro.
Roedd yn aelod o Gôr Meibion Caron ac fe gafodd ei dderbyn i’r Orsedd yn 2008.
‘Mawr ei barch’
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd cyn Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, Gwerfyl Pierce Jones: “Bu Dewi ar staff y Cyngor Llyfrau am dros ddeng mlynedd ar hugain. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n llywio cannoedd lawer o lyfrau drwy’r wasg. Roedd ei graffter a’i fanylder yn eithriadol ac roedd yn fawr ei barch o fewn y diwydiant llyfrau.
“Ond roedd o hefyd yn gydweithiwr ardderchog: yn garedig, yn feddylgar ac yn driw i’r eithaf. Meddai ar synnwyr digrifwch arbennig ac roedd yn annwyl gan bawb yn ddiwahân. Bydd colled enfawr ar ei ôl.”
Mae’n gadael ei briod Sandra a dwy ferch.