Mae Heddlu Gwent wedi enwi cerddwr 76 oed gafodd ei ladd ar ôl cael ei daro gan gar ar bromenâd Tredegar yr wythnos hon.

Fe wnaeth car Mazda wrthdaro a’r dyn lleol John Ernest Roach am 9:45 bore dydd Mawrth.

Cafodd anafiadau difrifol i’w ben a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, lle bu farw yn ddiweddarach.

Mae dyn lleol 54 oed wedi cael ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth ar amheuaeth o ladd trwy yrru’n beryglus.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.