Mae dynes sy’n cael ei chyhuddo o drywanu ei mam ym Mhontardawe yn cael ei chadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, yn ôl yr heddlu.

Cafodd y ddynes 32 oed ei harestio yn Heol Gwyrddgoed nos Fawrth wedi i’w mam 63 oed gael ei darganfod gydag anafiadau difrifol. Mae’n cael ei holi gan yr heddlu ar amheuaeth o ymgais i lofruddio.

Yn dilyn y digwyddiad, fe aed a’r fam i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr, lle mae hi bellach mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, meddai’r heddlu.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am 5.45yh ac mae apêl am wybodaeth wedi ei lansio, gyda’r heddlu  yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 1500129355.