Mae’r Ceidwadwyr wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw ynglŷn â’r ffrae sydd wedi dod i’r amlwg yn Aberconwy rhwng eu hymgeisydd seneddol Guto Bebb a’r cadeirydd lleol.
Ddoe fe ddatgelodd golwg360 bod Guto Bebb a chadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Aberconwy, Gary Burchett, yng ngyddfau ei gilydd ac yn gwrthod ymgyrchu ar y cyd.
Mewn e-byst ymfflamychol, mae Gary Burchett yn gwneud cyfres o sylwadau beirniadol am ymgyrch Guto Bebb gan ddweud ei fod yn ymgyrchu dros ei hun yn hytrach na’i blaid.
Mae hefyd yn awgrymu bod Guto Bebb wedi ffraeo ag Aelod Cynulliad Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders, gyda’r cadeirydd yn mynnu na fydd yn cefnogi ymgyrch Guto Bebb i gael ei ailethol ar 7 Mai.
Wrth ymateb i’r e-bost, fe ddywedodd Guto Bebb fod Gary Burchett yn “idiot” ac yn “disgrace”.
Cadw’n ddistaw
Fe allai’r ffrae danllyd rhwng ymgeisydd y blaid a’i gadeirydd lleol ei hun niweidio ymgais Guto Bebb i ddal gafael ar sedd Aberconwy dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol.
Mae disgwyl i’r Blaid Lafur a’u hymgeisydd Mary Wimbury frwydro’n galed am y sedd, gyda’r Ceidwadwyr yn cipio’r sedd oddi wrth Llafur yn 2010 ar fwyafrif o 3,300.
Hyd yn hyn mae’r Ceidwadwyr wedi mynnu nad ydyn nhw am wneud sylw ynglŷn â’r ffrae, ac mae Guto Bebb wedi gwrthod ymateb i ymholiadau golwg360.
Ddoe fe ddywedodd Gary Burchett nad oedd e am wneud sylw, gan fynnu nad oedd wedi ffraeo â Guto Bebb ond ychwanegu ei fod “yn bryderus” bod y negeseuon wedi dod i sylw golwg360.
Mae cyfrif Twitter @AberconwyLabour hefyd wedi postio neges yn dweud “Ni fyddwn yn rhoi sylwadau ar broblem fewnol hon y Ceidwadwyr” – cyn postio linc i’r stori.