Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i ddynes gael ei thrywanu mewn “ymosodiad difrifol” ym Mhontardawe neithiwr.

Cafodd dynes yn ei 30au ei harestio yn dilyn y digwyddiad am 5:45yh nos Fawrth ger yr Ysgol Gymraeg leol.

Nid yw cyflwr y ddynes gafodd ei thrywanu yn hysbys ar hyn o bryd.

Yn ôl adroddiadau, fe gafodd hi ei chludo i’r ysbyty gan ambiwlans awyr ac roedd naw cerbyd heddlu ac ambiwlans ar y safle.

Mae pabell fforensig wedi ei chodi y tu allan i’r tŷ wrth i ymchwiliad Heddlu’r De barhau.