Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddyn 25 oed yng Nghas-gwent.

Roedd y dyn yn cerdded ar hyd Ffordd Thomas rhwng 1:30-1:40 y bore ar 12 Ebrill pan ddaeth criw o ddynion i’w gwrdd. Fe wnaeth un o’r dynion ymosod arno gan achosi anaf i’w ben a’i ysgwydd.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond mae bellach wedi cael ei rhyddhau.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101.