Bu’n rhaid achub dwy ddynes ar ôl i’w cwch hwylio wyro oddi ar ei thaith ger y Gogarth y bore ma.

Cafodd criw achub Gwylwyr y Glannau Llandudno wybod trwy ddyfais arbennig fod y ddwy wedi mynd i drafferthion yn eu cwch ‘Bojangles’, ac fe aethon nhw i’w cynorthwyo am 10 o’r gloch.

Roedd y criw ynghanol sesiwn hyfforddi ym Mhorth Dyniewaid pan dderbynion nhw neges frys gan Wylwyr y Glannau Caergybi i fynd i gynorthwyo criw Llandudno.

Cafodd y ddwy eu hachub gan fadau achub, a chafodd y cwch ei gludo i ddiogelwch yng Nghonwy.