Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP, Nathan Gill wedi cael ei feirniadu am ei sylwadau am newid hinsawdd.

Ar raglen Sunday Supplement Radio Wales, dywedodd Gill, sy’n ymgeisydd seneddol ym Môn, nad yw’n credu bod bodau dynol yn gallu newid yr hinsawdd.

“Dydyn ni ddim yn cytuno bod dyn yn gyfrifol. Mae’r Llywodraeth wedi sylweddoli ei bod yn ffordd wych o godi treth ar bobol.

“Twpdra llwyr yw credu, trwy godi tyrbinau gwynt ledled Cymru, y byddwn ni’n atal y tywydd rhag newid.”

Awgrymodd hefyd y byddai ei blaid yn diddymu Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan pe baen nhw mewn grym.

“Rwy’n credu’n gryf fod yr hinsawdd yn newid. Mae hi bron fel y brenin Canute yn ceisio atal y llif rhag dod i mewn drwy ddweud ‘Gadewch i ni godi cannoedd o bunnoedd ychwanegol trwy filiau ynni’.

“Ni ddylen ni fod yn codi trethi ar y bobol dlotaf yn ein cymdeithas er mwyn gwneud tirfeddianwyr yn fwy cyfoethog.”

Yn dilyn y rhaglen y bore ma, dywedodd ymgeisydd seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol tros Frycheiniog a Sir Faesyfed, Roger Williams ei fod “wedi syfrdanu” ynghylch y sylwadau.

Mewn datganiad, dywedodd Williams: “Mae’n syfrdanol clywed bod UKIP yn gwadu fod bodau dynol yn achosi newid yn yr hinsawdd.

“Unwaith eto, mae UKIP yn ceisio mynd â ni tuag yn ôl, yn hytrach nag ymlaen.”

Ychwanegodd Roger Williams fod newid hinsawdd yn “un o’r bygythiadau mwyaf difrifol yn y byd”.

“Y cwestiwn yw, faint yn rhagor o wyddoniaeth gadarn sydd ei hangen er mwyn darbwyllo UKIP eu bod nhw’n anghywir?

“Dydy newid hinsawdd ddim yn dod i ben wrth ffiniau ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n credu ei bod yn hanfodol cydweithio â gwledydd eraill Ewrop er mwyn brwydro i leihau carbon a hyrwyddo swyddi gwyrddion.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Nathan Gill am ei ymateb.

‘Twpdra pengaled’

Wrth herio Nathan Gill ar wefan gymdeithasol Twitter, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas fod gwadu bodolaeth newid hinsawdd yn dangos “twpdra pengaled”.