Mae adroddiadau mai bachgen saith oed o Dal-y-bont ar Wysg gafodd ei ladd tra ar wyliau sgïo gyda’i deulu yn yr Alpau yn Ffrainc.

Aeth Carwyn Scott-Howell ar goll a syrthio 320 o droedfeddi i lawr ochr clogwyn ar safle Flaine yn rhanbarth Haute-Savoie brynhawn Gwener.

Cafodd ei weld ddiwethaf gan ei fam, Ceri Scott-Howell ger piste Aujon oddeutu 4 o’r gloch y prynhawn, ond rhoddodd ei fam wybod i’r awdurdodau’n ddiweddarach fod ei mab ar goll.

Mae’r teulu’n berchen ar fythynnod gwyliau Coity Bach yn Nhal-y-bont ar Wysg ym Mannau Brycheiniog.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n cynnig cymorth conswlaidd i’r teulu.