Llys y Goron Merthyr Tudful
Mae dyn 21 oed wedi cael ei garcharu am anelu sylwadau gwrth-Gymreig at blismon.
Cafodd Charles Bugg, a gafodd ei eni yn Lloegr, ei arestio ar ôl ymosod ar ffrind tra’n yfed yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i dafarn yn ardal Talbot Green y brifddinas yn dilyn adroddiadau bod ffrwgwd rhwng Bugg a’i ffrind Joe Simpkin.
Cafodd Simpkin anafiadau i’w wyneb, ac fe geisiodd yr heddlu arestio Bugg.
Cafodd y sylwadau gwrth-Gymreig eu hanelu at y plismon wrth geisio rhoi Bugg yng nghefn y car.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Bugg wedi defnyddio “iaith ffiaidd”.
Cafodd Bugg ei garcharu am flwyddyn ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol a difrod wedi’i ysgogi gan hiliaeth.