Mae dau o ddisgyblion Ysgol Gyfun Plasmawr yng Nghaerdydd newydd ddychwelyd adref o daith ymchwil yn Ghana, yng Ngorllewin Affrica.

Mae Emily Pemberton a George Watts, y ddau ohonynt yn bymtheg oed, yn Lysgenhadon Ifanc 2015 ar gyfer Ymgyrch Danfona Fy Ffrind i’r Ysgol.

Mae ymgyrch Danfona Fy Ffrind i’r Ysgol yn gofyn i bobl ifanc ledled Prydain i ‘gamu i esgidiau arweinydd byd’ a dweud wrth eu AS lleol sut y bydden nhw yn rhoi dyfodol gwell i blant y byd.

Bydd yr ymgyrch yn dod i uchafbwynt ar Ddiwrnod Gweithredu ar 26 Mehefin, pan fydd Aelodau Seneddol ar draws y wlad yn ymweld ag ysgolion i glywed beth sydd gan bobl ifanc i’w ddweud.

Cafodd Emily Pemberton a George Watts eu gwahodd i fynd i Ghana i edrych ar ddatblygiad addysg yno o ran cyrraedd Nodau Datblygu’r Mileniwm i roi addysg i holl blant y byd erbyn diwedd 2015.

Anghysbell

Teithiodd Emily a George i ardal anghysbell yn y Gogledd Ddwyrain gyda ActionAid, ble cawson nhw dreulio amser gyda phlant sydd dal ddim yn mynd i’r ysgol.

Meddai George: “Er bod addysg sylfaenol ‘am ddim ac yn orfodol’ yn Ghana fe wnaethom ni ddysgu bod 440,000 o blant yn dal heb fod yn mynd i’r ysgol.

“Un o’r bechgyn nes i gyfarfod oedd Ayabil, a tydi e ddim yn mynd i’r ysgol gan fod rhaid iddo weithio ar fferm ei dad. Mae’n drychineb, ac eto mae’r straeon hyn yn rhai cyffredin.

Meddai Emily: “Nes i dreulio amser gyda Lariba, merch 11 oed sydd wedi colli ei thad. Mae ei mam yn sengl ac yn methu dod i ben â bwydo’r teulu a chostau gwisg ysgol ac esgidiau. Mae Lariba yn mynd gyda’i mam bob bore i gasglu baw gwartheg sy’n cael ei werthu fel gwrtaith i’r ffermwyr lleol. Dywedodd  ei mam, Ayamliya, ei bod hi’n deall pwysigrwydd addysg fel ffordd allan o dlodi, ond ei bod hi methu fforddio anfon ei phlant i’r ysgol.”

Y diwrnod canlynol, aeth y Llysgenhadol Ifanc i ymweld ag Ysgol Gynradd Ninkogo, ble mae 888 o ddisgyblion yn cael eu dysgu gan ddim ond pum athro, a dim ond dau ohonynt sydd wedi eu hyfforddi yn broffesiynol.

Esbonia Emily: “Wrth eistedd yn y dosbarth gyda 124 o ddisgyblion ro’n i wedi dychryn wrth weld y diffyg adnoddau; roedd hen lyfrau blêr yn cael eu rhannu gan o leiaf tri disgybl, a doedd dim posteri nac unrhyw adnoddau dysgu eraill.

Bu’r Llysgenhadon Ifanc hefyd yn cwrdd â swyddogion yn Y Weinyddiaeth Addysg, Undeb Athrawon Ghana a’r Ymgyrch Byd-eang am Addysg yn Ghana er mwyn dysgu am yr heriau a’r polisïau sy’n gweithio tuag at ddiwrnod pan fydd pob plentyn yn derbyn yr hyn maen ganddyn nhw hawl iddo; addysg o safon.

Meddai Philippa Dillon, Rheolwr Ymgyrchoedd Addysg ar gyfer yr Ymgyrch Fyd-eang am Addysg y DU: “Mae ymchwil George ac Emily yn rhoi darlun clir o’r system addysg yn Ghana. Er gwaetha’r datblygiadau da, a’r polisïau sylweddol, mae yna dal lawer gormod o blant ddim yn mynd i’r ysgol.

“Dyw’r straeon hyn yn ddim ond cip ar fywydau 58 miliwn o blant ledled y bydd sydd ddim yn derbyn yr addysg mae nhw â hawl iddi. Mae arweinwyr byd yn cyfarfod ym mis Medi i greu mwy o nodau fydd yn effeithio dyfodol y plant hyn. Dyna pam ei bod hi’n flwyddyn mor bwysig i Danfona Fy Ffrind i’r Ysgol, ac rydym yn galw ar gymaint o ysgolion â phosib i gymryd rhan!”