Yn dilyn cyfarfod hanesyddol rhwng Arlywydd America, Barack Obama, a Raul Castro, arweinydd Cuba, ddoe, mae’r ddwy ochr yn gobeithio am gymod hanesyddol rhwng y ddwy wlad.
Hwn oedd y tro cyntaf i arweinwyr y ddwy wlad gyfarfod wyneb yn wyneb â’i gilydd ers y chwyldro yn Cuba yn 1959.
Wrth i Obama a Castro ysgwyd llaw yn gyfeillgar â’i gilydd yng ngŵydd arweinwyr gwledydd dau gyfandir America mewn uwch-gynhadledd yn ninas Panama ddoe, y farn oedd bod y trafodaethau wedi cael cychwyn addawol.
Mae’r ddwy ochr wrthi’n trafod agor llysgenadaethau yn Washington a Havana fel y cam cyntaf at berthynas ddiplomaidd newydd rhyngddynt.
Un o brif flaenoriaethau Raul Castro fydd perswadio llywodraeth America i gyhoeddi nad yw Cuba bellach ar eu rhestr o wledydd sy’n hyrwyddo terfysgaeth, ond nid yw’n glir pa bryd y bydd Barack Obama yn barod i wneud hynny.