Mae’r cynllun creu gwaith sy’n cael ei glodfori gan Lywodraeth Cymru ac yn rhan o ymgyrch etholiad y Blaid Lafur trwy weldydd Prydain wedi dod i ben yn dawel bach.

Ac mae’n ymddangos nad oes unrhyw gynllun yn barod i gymryd ei le – yn ôl y Llywodraeth maen nhw’n gweithio ar raglen newydd a fydd ar gael rywdro “ar ôl 2015”.

Dim ond ar 2 Ebrill y cafodd nodyn ei roi ar wefan y Llywodraeth yn dweud fod cynllun Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobol ifanc wedi dod i ben. Does dim esboniad pam.

‘Tros dro’

Mae’r Llywodraeth yn dweud mai oedi tros dro sydd yn y cynllun ac y bydd fersiwn newydd yn dechrau pan fydd yr Undeb Ewropeaidd wedi ei gymeradwyo.

Fe fydd pawb sydd eisoes ar y cynllun yn parhau yn eu swyddi, medden nhw.

Mae taflenni etholiad Llafur yn dweud bod y cynllun wedi creu 16,000 o swyddi i bobol ifanc – swyddi am o leia’ chwech mis, am o leia 25 awr yr wythnos ac ar yr isafswm cyflog neu fwy.

Mae’r arweinydd Llafur, Ed Miliband, wedi dweud y byddai’r cynllun yn fodel ar gyfer rhaglen debyg yn Lloegr hefyd.

Y cynllun

Y bwriad yw fod pobol ifanc yn cael cyfle i wneud eu marc a fod y profiad gwaith yn arwain at swyddi parhaol.

Fe ddaeth diwedd y cynllun i sylw cyhoeddus ar ôl i’r cyn AC, Pauline Jarman – arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Rhondda Cynon Taf – sylwi ar y nodyn.

Mae’r gwrthbleidiau i gyd wedi condemnio’r penderfyniad a’i fod yn tanseilio addewidion y Blaid Lafur.