Y llys
Fe fydd 26 o bobol yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon heddiw am fod yn rhan o gylch cyffuriau yn gwerthu cannabis a chocên yn yr ardal.

Mae’r rhan fwya’n dod o ardal Caernarfon ei hun ac o Fanceinion a Glannau Mersi ac mae’r achos yn dilyn gwaith ymchwil pum mlynedd gan Heddlu Gogledd Cymru.

Ddoe, fe fu bargyfreithwyr yn pledio am drugaredd ar ran rhai o’r troseddwyr, gan gynnwys naw o ardal Caernarfon a Llanddeiniolen. Merched yw dwy ohonyn nhw.

Maen nhw wedi pledio’n euog i amrywiaeth o gyhuddiadau, sy’n cynnwys cyflenwi cyffuriau, caniatáu i adeilad gael ei ddefnyddio, edrych ar ôl cyffuriau a thrafod arian o’r drosedd.

Yr arweinydd

Dyn o Gaernarfon, Gavin Thorman, 36 oed, oedd arweinydd y gang yng Nghaernarfon ond, yn ôl y dystiolaeth yn y llys, roedd yn gweithio dan gyfarwyddyd pobol ym Manceinion.

Fe ddaeth cyrch yr heddlu i’w uchafbwynt gyda gwarchae yn Stryd Llyn, Caernarfon, fis Awst diwetha’ pan oedd dau o’r diffynyddion wedi dianc i ben to adeilad yno.