Model o'r carchar
Fe allai bwrdd iechyd gogledd Cymru wynebu bil o filiynau o bunnoedd i dalu am ofal iechyd yn y carchar mawr newydd yn Wrecsam, meddai corff ymchwil.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn hawlio bod negeseuon e-bost gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos mai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fydd yn gyfrifol am wasanaethau iechyd yn y carchar.

Mae’r Ganolfan eisoes wedi datgelu bod cynnig gofal iechyd sylfaenol i Garchar Caerdydd yn costio £2.2 miliwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ond fe fydd y carchar yn Wrecsam bron dair gwaith maint hwnnw – gyda 2,100 o garcharorion o gymharu â llai nag 800 yng Nghaerdydd.

Dadlau tros y carchar

Mae’r datblygiad dadleuol eisoes wedi codi gwrychyn rhai, gyda chwestiynau ynglŷn â’r angen i gael carchar mor fawr a phryderon ynglŷn â faint o bobl leol fyddai’n cael eu cyflogi.

Cafodd pryderon ynglŷn â chostau iechyd y carchar eu codi llynedd, ac yn ôl cyfarwyddwr elusen sydd yn ymgyrchu dros leihau’r nifer o garcharorion, mae’n “annheg” bod Cymru yn gorfod cymryd y cyfrifoldeb ariannol.

Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal asesiad i anghenion iechyd y carchar ac mae disgwyl iddi gwblhau gwneud hynny ym mis Mai eleni.

Disgwyl cost o filiynau

Cafodd cyfrifoldeb dros ddarpariaeth iechyd mewn carchardai ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru yn 2003 a, dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei roi i fyrddau iechyd lleol.

“O’r diwrnod cynta’ mae cwestiynau wedi cael eu codi ynglŷn ag effaith posib adeiladu’r carchar ar wasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru,” meddai Robert Jones, ymchwilydd yn y Ganolfan.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn datgelu mai Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fydd yn ysgwyddo cost anghenion iechyd y 2,100 o garcharorion.

“O ystyried trafferthion presennol gwasanaethau iechyd gogledd Cymru, mae’r penderfyniad i agor yr ail garchar mwyaf yng ngorllewin Ewrop yng Ngogledd Cymru yn un sydd yn debygol o gael effaith ariannol ac ymarferol sylweddol i wasanaethau iechyd yr ardal.”

‘Annheg i Gymru’

Dywedodd Andrew Neilson, cyfarwyddwr ymgyrchoedd elusen Cynghrair Howard tros Ddiwygio Carchardai ei bod hi’n annheg bod bwrdd iechyd o Gymru yn gorfod edrych ar ôl anghenion carcharorion a fyddai’n dod yn benna’ o Loegr.

“Mae’n glir bod carchar Wrecsam yn cael ei adeiladu er mwyn datrys problem gorgarcharu a gorlenwi yn Lloegr,” meddai Andrew Neilson.

“Felly mae’n ymddangos yn hollol annheg bod gwasanaethau iechyd lleol yng ngogledd Cymru yn gorfod cefnogi sefydliad mor fawr.

“Mae adeiladu’r carchar enfawr yma yn gamgymeriad enfawr a dyw hwn yn ddim ond un o’r effeithiau negyddol y bydd y carchar yn ei gael ar y gymuned leol.”