Mae ymgyrchwyr gwrth-beilonau wedi codi pryderon nad yw’r llywodraeth wedi gwneud digon i ystyried beth fyddai effaith unrhyw ddatblygiad newydd ar ddiwydiant twristiaeth yr ardal.

Dywedodd yr Ymgyrch Gwrth-Beilonau, sydd yn erbyn datblygiad arfaethedig o’r fath ar Ynys Môn, y gallai effeithio ar fusnesau sydd yn ceisio denu ymwelwyr i’r ynys.

Ar hyn o bryd mae’r Grid Cenedlaethol yn bwriadu adeiladu rhes o beilonau newydd ar hyd yr ynys er mwyn cludo trydan o brosiectau ynni newydd ym Môn gan gynnwys atomfa Wylfa Newydd.

Ond yn ôl yr ymgyrchwyr fe ddylai’r trydan gael ei gludo i Lannau Dyfrdwy mewn ceblau tanfor yn hytrach na pheilonau ar draws y tir fyddai tair gwaith yn fwy na’r rhai presennol.

Galw am ymchwiliad

Yn ôl cynlluniau’r Grid Cenedlaethol fe fyddan nhw’n gosod gwifrau tanfor i gludo’r trydan o dan y Fenai, ond byddai peilonau’n cael eu codi ar draws yr ynys ei hun.

Ac mae hynny eisoes wedi codi gwrychyn gwleidyddion Ynys Môn gydag arweinydd y Cyngor, Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad y sir i gyd yn datgan eu gwrthwynebiad.

Mae’r sector amaeth hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â chynlluniau’r Grid i adeiladu peilonau yn hytrach na cheblau tanfor, gydag NFU Cymru yn gwrthwynebu’r syniad o gludo’r trydan mewn gwifrau dros y tir.

Dywedodd yr ymgyrch gwrth-beilonau mewn datganiad bod angen i lywodraeth San Steffan  “gydnabod sgil effeithiau’r diwydiant ynni ar y sector dwristaidd, amaeth a hamdden”.

Ychwanegodd y grŵp “nad yw’n ddigonol i fawrygu potensial newydd diwydiant heb adnabod yr effaith ar ddiwydiannau a chyflogaeth sy’n bodoli eisoes ar yr ynys, gan bwyso ar ddatblygwyr ynni i fuddsoddi mewn ceblau tanfor i liniaru’r effaith”.

Maen nhw hefyd wedi galw ar y Cynulliad yng Nghaerdydd, sydd â chyfrifoldeb dros amaeth, twristiaeth a’r amgylchedd, i ymchwilio i effaith posib y datblygiad ar y meysydd hynny ym Môn.

‘Hen ffasiwn’

Yn ôl ffigyrau’r ONS, Ynys Môn yw ardal o Brydain sydd yn dibynnu fwyaf ar dwristiaeth ac mae’n 20% o economi’r ynys.

Yn ôl perchennog un busnes llety yn Llangefni, mae hyn yn dystiolaeth bod angen ystyried pa effaith y byddai unrhyw beilonau newydd yn eu cael ar ddiwydiannau sydd eisoes yn bodoli yn lleol.

“Nid wyf am rwystro datblygiadau sy’n creu gwaith,” meddai John Shufflebottom, sydd yn rhedeg llety yn Llidiart Twrcelyn.

“Ond rwy’n disgwyl i unrhyw ddatblygwr newydd ar yr ynys i fuddsoddi’n addas i liniaru effaith ei ddatblygiad newydd ar fusnesau a chyflogaeth sy’n bodoli eisoes.

“Felly yn fy marn i ac eraill yn y sector, tydi datrysiad hen ffasiwn o beilonau i gario trydan yn hytrach na cheblau tanfor, ddim yn opsiwn i fusnesau twristaidd Môn.”