Papur yr Herald
Mae undeb newyddiadurwyr yr NUJ wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal rali gyhoeddus yng Nghaernarfon dydd Sadwrn i wrthwynebu cau swyddfa papur newydd yn y dref.

Cyhoeddodd Trinity Mirror yn ddiweddar y byddai swyddfa’r  Caernarfon and Denbigh Herald yn cau ym mis Mehefin, gan adlewyrchu newidiadau yn y diwydiant yn yr oes ddigidol.

Y disgwyl yw mai un swydd fydd yn cael ei cholli oherwydd y cau, ac fe fydd newyddiadurwyr a staff hysbysebu yn gweithio o bell yn hytrach nag o’r swyddfa ar Stryd y Porth Mawr.

Ond mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan wleidyddion lleol ac mae deiseb eisoes ar y gweill i geisio annog y cwmni i wyrdroi’r penderfyniad.

‘Ergyd i ddemocratiaeth’

Roedd Caernarfon yn cael ei adnabod fel ‘prifddinas yr inc’ yng Nghymru ar un adeg oherwydd cymaint o bapurau newydd oedd yn cael eu cyhoeddi yno.

Mae’r swyddfa yn Stryd y Porth Mawr wedi bod yn gartref i staff o’r Daily Post, Caernarfon and Denbigh Herald, Holyhead and Anglesey Mail, Bangor and Anglesey Mail a’r Herald Cymraeg.

Dywedodd yr NUJ y byddai’r rali dydd Sadwrn 11 Ebrill yn gyfle i ddod a newyddiadurwyr, gwleidyddion a phobl leol ynghyd i wrthwynebu cau’r swyddfa.

“Mae swyddfa bapur newydd wedi bod yng Nghaernarfon ers 1855 ac fe fyddai cau’r lle yn ergyd i’r dref a democratiaeth leol,” meddai datganiad gan yr undeb.

“Mae’r undeb yn annog pawb sydd yn poeni am newyddion lleol yng Nghymru i fynychu’r rali dydd Sadwrn yma a helpu i roi pwysau ar Trinity Mirror er mwyn darbwyllo’r cwmni i newid eu meddwl ynglŷn â chau swyddfa Caernarfon.”