Rheolwr Cymru Chris Coleman (llun: Tsafrir Abayov/PA)
Mae FIFA wedi cadarnhau yn swyddogol heddiw bod Cymru wedi codi i 22ain yn rhestr detholiadau’r byd, ei safle uchaf erioed.
Yr wythnos diwethaf fe ddatgelodd golwg360 fod disgwyl i’r tîm godi 15 safle yn y detholiadau ar gyfer mis Ebrill, a hynny ar ôl trechu Israel 3-0 mewn gêm ragbrofol Ewro 2016.
Ac mae’r cadarnhad hwnnw’n hwb sylweddol i’r tîm cenedlaethol, gan ei bod hi bellach yn debygol iawn y byddan nhw’n cael grŵp mwy ffafriol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.
Yr uchaf mae Cymru erioed wedi bod ar y rhestr yw 27ain nôl yn Awst 1993 – pan oedd llai o wledydd yn chwarae pêl-droed rhyngwladol.
Creu hanes
Llai na phedair blynedd yn ôl roedd Cymru ar ei hisaf yn netholiadau’r byd, gan ddisgyn i 117eg yn y byd a chael eu dewis yn y pot gwaelod o chwech ar gyfer grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
Bellach maen nhw bron yn siŵr o sicrhau lle ym Mhot Dau pan fydd grwpiau 2018 yn cael eu dewis ym mis Gorffennaf eleni, ac os ydyn nhw’n trechu Gwlad Belg ym mis Mehefin fe fyddan nhw’n codi i Bot Un.
Mae’n adlewyrchu cynnydd y tîm dros y blynyddoedd diwethaf, gyda charfan Chris Coleman hanner ffordd drwy eu hymgyrch i geisio cyrraedd Ewro 2016 ac yn hafal ar frig y grŵp gyda’r Belgiaid.
Yn y detholiadau diweddaraf mae Gwlad Belg hefyd wedi codi i’w safle uchaf erioed – trydydd – ond cwympo un safle i 31ain wnaeth Bosnia, ac fe ddisgynnodd Israel 20 safle i 46fed.
O’r timau eraill sydd yng ngrŵp Ewro 2016 Cymru, mae Cyprus yn 96ain ac Andorra yn 204ydd.
O weddill timau ynysoedd Prydain mae Lloegr wedi codi tri safle i 14eg, yr Alban yn 29ain (+10), Gogledd Iwerddon yn 42fed (+1), a Gweriniaeth Iwerddon yn 62ain (+4).