Jamie Donaldson
Bydd y Cymro o Bontypridd, Jamie Donaldson yn rhannu’r cwrs gyda Tiger Woods a Jimmy Walker yng nghystadleuaeth y Meistri sy’n dechrau yn Augusta yfory.

Mae Woods yn anelu am ei bumed tlws, ac mae Rory McIlroy yn anelu at fod y chweched chwaraewr yn hanes y byd golff i gipio’r ‘Gamp Lawn’ – y Meistri, Pencampwriaeth Agored America, y Bencampwriaeth Agored a Phencampwriaeth PGA.

Mae Woods wedi chwarae mewn dwy gystadleuaeth yn unig mor belled eleni ac er gwaethaf dechreuad digon gwael, mae’n mynnu ei fod yn barod i “gystadlu i ennill twrnament golff”.

Bydd McIlroy yn cystadlu yn yr un grŵp â Phil Mickelson a Ryan Moore, tra bydd pencampwr Pencampwriaeth Agored America, Martin Kaymer yng ngrŵp Brandt Snedeker a JB Holmes.

Mae 98 o chwaraewyr yn cystadlu eleni, ac fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei hagor yn swyddogol wrth i Gary Player, Jack Nicklaus ac Arnold Palmer daro’r ergydion cyntaf.