Louise Lucas
Bydd Cabinet Cyngor Abertawe yn ystyried adroddiad brys ar newidiadau arfaethedig i system ffyrdd canol y ddinas yn sgil y ddwy ddamwain.

Daw’r adroddiad wythnos wedi i’r blismones Louise Lucas, 41, gael ei lladd mewn gwrthdrawiad â bws ar Ffordd y Brenin y ddinas ar Fawrth 31.

Cafodd ei merch wyth oed anafiadau yn y digwyddiad.

Dyma’r ail dro i rywun gael ei lladd mewn gwrthdrawiad â bws ar y ffordd honno ers iddi gael ei haddasu i fod yn ffordd ddwy lôn ar gyfer bysiau.

Cafodd Daniel Foss o Benrhyn Gŵyr ei ladd yn 2013.

Mae disgwyl i’r cynlluniau olygu na fydd traffig yn gallu symud i gyfeiriad y dwyrain allan o’r ddinas, ac fe fydd arian ar gael ar unwaith i gyflwyno’r newidiadau.

Bydd y Comisiynydd Trafnidiaeth yn ystyried y cynlluniau er mwyn newid llwybrau bysys i mewn ac allan o’r ddinas.

Daeth cadarnhad yr wythnos diwethaf fod y Cyngor yn cyflwyno mesurau diogelwch newydd i gerddwyr ar Ffordd y Brenin, gan gynnwys gostwng y cyflymdra i 20 milltir yr awr.

Bydd rhwystrau diogelwch yn cael eu gosod yng nghanol y ffordd.

‘Ystyried yr holl opsiynau’

Dywedodd arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: “Rydym yn gwneud popeth fedrwn ni i leihau’r amserlenni wrth gyflwyno’r newidiadau hyn i draffig ar Ffordd y Brenin a’r bariers yng nghanol y ffordd, ond mae’n debygol y bydd camau eraill yn cael eu cymryd maes o law.

“Rydym hefyd yn ystyried yr holl opsiynau ar hyn o bryd ar gyfer rhagor o newidiadau i ardal Ffordd y Brenin sydd eisoes wedi cael ei hadnewyddu.

“Mae’n bwysig nad yw’r camau ry’n ni’n eu cymryd ar Ffordd y Brenin yn creu trafferthion rhywle arall yn y ddinas.

“Rydym yn cymryd y cam o gyflwyno arian yn gynt na’r disgwyl fel bod modd gwneud unrhyw waith sydd angen cyn gynted â phosib.”