Fe allai claddfa wastraff niwclear gael ei hadeiladu gan Lywodraeth San Steffan heb ganiatâd awdurdodau lleol, ar ôl i ddeddf yn caniatáu hynny gael ei basio ar ddiwrnod olaf y Senedd.

Bellach mae claddfa wastraff o’r fath yn cael ei ddiffinio fel “prosiect isadeiledd sydd o bwys cenedlaethol”, gan olygu mai Llundain sydd â’r penderfyniad terfynol dros ble i’w adeiladu.

Yn y rhuthr i basio deddfau cyn i’r Senedd gael ei diddymu ar gyfer yr etholiad cyffredinol, pasiwyd y mesur yn Nhŷ’r Cyffredin gyda dim ond 33 AS yn gwrthwynebu, a Llafur yn ymatal rhag pleidleisio.

Ond yn y cymal oedd yn diffinio beth oedd “datblygiad” yn ymwneud â chladdfa wastraff, dywedwyd bod rhaid i’r safle fod yn Lloegr neu yn y dŵr oddi ar arfordir Lloegr .

Fe allai hynny olygu ei bod hi’n haws yn y dyfodol i’r llywodraeth sicrhau caniatâd i adeiladu claddfa o’r fath yn Cumbria – er bod posibilrwydd o hyd y gallai safle o’r fath gael ei leoli yng Nghymru.

Wedi edrych ar Ynys Môn

Y llynedd fe ddatgelodd Golwg bod safleoedd yng Nghymru gan gynnwys ardaloedd Trawsfynydd, a Wylfa ar Ynys Môn, yn cael eu hystyried fel safleoedd posib ar gyfer cynnal claddfa wastraff niwclear o’r fath.

Byddai’r gladdfa danddaearol yn storio holl wastraff ymbelydrol y Deyrnas Unedig yn barhaol, a’r awgrym oedd y byddai cymunedau oedd eisoes â gorsafoedd niwclear yn fwy parod i dderbyn y cynllun.

Ond mae awdurdod lleol yn Cumbria eisoes wedi atal ymgais i leoli’r gladdfa yn ei hardal hi, a llynedd fe ategodd Albert Owen AS a Rhun ap Iorwerth AC y gwrthwynebiad o Fôn.

O dan gynlluniau presennol y llywodraeth byddai’n rhaid aros nes i gymuned wirfoddoli ei hun i gynnal y gladdfa – a phetai cymuned o Gymru yn gwneud hynny fe fyddai’n rhaid cael caniatâd Llywodraeth Cymru hefyd.

Llynedd cafodd CoRWM, corff y llywodraeth sydd yn gyfrifol am ganfod datrysiad i’r gwastraff niwclear, eu beirniadu am beidio â chadw cofnodion o gyfarfod cyhoeddus gafodd ei gynnal ym Môn.

Newid cyfeiriad?

Does dim cymuned wedi cynnig cynnal claddfa wastraff niwclear o’r fath hyd yn hyn, fodd bynnag, ac felly fe allai’r newid yn y ddeddf olygu bod llywodraeth San Steffan yn dilyn trywydd gwahanol.

Os yw claddfa wastraff niwclear bellach yn brosiect isadeiledd o bwys cenedlaethol fe allai’r llywodraeth benderfynu ei hadeiladu mewn ardal heb gymeradwyaeth gan yr awdurdod lleol.

Byddai’n rhaid gwneud profion daearegol ar y safle a phrofi bod “cefnogaeth leol” i’r datblygiad, ond fyddai hynny ddim o reidrwydd yn golygu cael sêl bendith cynghorau lleol.

‘Cynsail peryglus’

Mae’r newid yn y ddeddfwriaeth yn cyfeirio yn benodol at Loegr, gan awgrymu y byddai’r llywodraeth yn wynebu llai o heriau cynllunio wrth geisio adeiladu claddfa wastraff yno na petai nhw’n ceisio datblygu un yng Nghymru neu’r Alban.

Ond yn ôl Dylan Morgan o fudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B) mae angen i lywodraeth Prydain ddangos fod ganddyn nhw ateb i broblem y gwastraff niwclear presennol cyn y gallan nhw fwrw ymlaen gydag adeiladu atomfeydd newydd.

“Mae’r diwydiant niwclear yn awyddus iawn i gael y maen i’r wal gyda hyn a sefydlu claddfa, gan fod hynny yn ei dro yn hwyluso’r syniad o godi gorsafoedd niwclear newydd,” meddai Dylan Morgan.

“Falle bod [y ddeddfwriaeth] hwn yn cyfeirio at Loegr yn unig, ond dyw e ddim yn golygu bod hynny’n mynd i fod yn dderbyniol [i bobl Lloegr].”

Mynnodd hefyd bod yr egwyddor o allu adeiladu safle wastraff niwclear heb ganiatâd y cymunedau lleol yn gynsail peryglus.

“Mae e’n wrth-ddemocrataidd yn ei hanfod, ac yn sathru ar bobl yn eu cymunedau,” ychwanegodd.