Mae gwraig wedi ymddangos yn y llys wedi’i chyhuddo o hawlio mwy na £100,000 trwy dwyll gan Gynulliad Cymru.

Mae’r honiadau’n dweud i Tracey Baker, 44, gysylltu gyda’r Cynulliad, gan gymryd arni fod yn gynrychiolydd o’r cwmni sy’n gyfrifol am gontract glanhau’r adeilad.

Yn ol y cyhuddiad yn ei herbyn, fe ddywedodd fod manylion banc y cwmni wedi newid… ac fe roddodd ei manylion ei hun i dderbyn taliadau.

Fe glywodd Llys Ynadon Croydon brynhawn ddoe fod tua £104,000 wedi’i drosglwyddo i gyfrif Tracey Baker rhwng Chwefror a Mai 2014.

Ond mae hi’n gwadu cyhuddiad o dwyll trwy gan-gynrychioli.

Mae’r wraig, sy’n byw yn Llundain, wedi’i rhyddhau ar fechniaeth, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Croydon ar Ebrill 16.