Heddiw, mae ymgyrch newydd gan Heddlu Gogledd Cymru yn dechrau – a’r bwriad plaen ydi lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd a’u hanafu ar y ffyrdd.

Bydd Ymgyrch Darwen yn weithredol rhwng penwythnos y Pasg a dechrau mis Hydref.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae beicwyr modur yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd nag unrhyw ddefnyddwyr ffyrdd eraill.

Er mai dim ond 1% o holl ddefnyddwyr y ffordd fawr sy’n defnyddio beiciau modur, maen nhw’n gyfrifol am 18% o’r holl farwolaethau.

“Un o’r pryderon mwyaf sy’n dod i’r amlwg yma ac yn genedlaethol yw bod beicwyr yn cael eu dal yn gyrru ar ôl bod yn yfed neu’n gyrru o dan ddylanwad cyffuriau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Tra bod mwyafrif y beicwyr modur yn reidio mewn modd priodol, mae rhai yn defnyddio’r ffyrdd fel rhywle i rasio ac yn torri deddfwriaethau diogelwch y ffyrdd mewn modd difrifol.

“Mae rhai yn goryrru ac yn gyrru’n beryglus gan achosi perygl o farwolaeth neu anafiadau difrifol iddyn nhw eu hunain neu ddefnyddwyr eraill y ffyrdd.”