Gorsaf betrol Pentraeth (Llun trwy garedigrwydd Dafydd Idriswyn)
Mae ymladdwyr tân wedi bod yn ymladd fflamau mewn gorsaf betrol ym mhentre’ Pentraeth ym Môn.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r orsaf ar ffordd yr A5025 toc wedi 4 o’r gloch fore heddiw. Fe gafodd trigolion stad dai Nant y Felin, y tu cefn i’r garej, eu symud o’u tai.
Mae criwiau o Borthaethwy, Llangefni, Bangor a Biwmares wedi bod yno, ynghyd â dau lwyfan o Fangor a’r Rhyl.
Mae ffordd yr A5025 wedi cau, ac mae’r gwasanaethau brys yn cynghori pobol i osgoi’r ardal.