Nicola Sturgeon wedi gwneud yn dda
Cymysgedd llwyr yw’r ymateb i’r ddadl deledu rhwng arweinyddion y pleidiau gwleidyddol.

Yn ôl yr ymateb ar wefannau cymdeithasol, arweinydd yr SNP yn yr Alban, Nicola Sturgeon, a wnaeth orau a hi oedd ar y blaen hefyd yn ôl rhai arolygon cyflym.

Hi oedd yn arwain yn arolwg YouGov, gydag arweinydd UKIP, Nigel Farage, yn ail – ond roedd ef wedi cael ei feirniadu fwy na’r lleill hefyd mewn ymatebion eraill.

Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, oedd ola’ yn y pôl hwnnw o bobol ar draws gwledydd Prydain.

Roedd arolwg ICM i’r Guardian yn rhoi’r arweinydd Llafur, Ed Miliband, fymryn ar y blaen – ond cyfartal oedd hi wrth bwyso a mesur yn uniongyrcol rhyngddo a’r Prif Weinidog.

Sylwebyddion yn canmol y tair

Roedd sylwebyddion ar y cyfan yn gytûn fod y tair gwraig ar y panel wedi gwneud yn dda, gan gynnwys Leanne Wood.

He gafodd y gymeradwyaeth gynta’ wrth ymosod ar arweinydd UKIP, Nigel Farage, am ddweud mai tramorwyr oedd mwyafrif dioddefwyr HIV yng ngwledydd Prydain.

“Fe ddylai fod ganddo gywilydd ohono’i hun,” meddai, gan ei gyhuddo o greu rhwygiadau.

Galw am newid cyfeiriad

Y tair gwraig, gan gynnwys Natalie Bennett, arweinydd y Gwyrddion, oedd wedi beirniadu’r toriadau gwario gan alw am newid cyfeiriad.

Neges David Cameron oedd fod rhaid “cadw at y cynllun” ond, yn ôl rhai polau piniwn, roedd Ed Miliband wedi gwneud ychydig yn well nag ef yn y frwydr rhwng y ddau brif weinidog posib.