Atomfa Wylfa
Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder y gallai dyfodol ieithyddol a diwylliannol Gwynedd a Môn fod “yn y fantol” petai cynlluniau yn cael eu cymeradwyo i adeiladu bron i 8,000 o dai yn yr ardal.

Ac maen nhw’n dweud mai nonsens yw awgrymu y byddai atomfa newydd yn yr Wylfa yn cryfhau’r Gymraeg ar yr ynys.

Wrth ymateb i Gynllun Adnau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, dywedodd Cymdeithas yr Iaith y byddai cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth y ddwy sir yn rhoi straen ar wasanaethau cyhoeddus.

Ac fe fyyddai’r boblogaeth ychwanegol ym Môn yn sgil datblygu Wylfa Newydd hefyd yn debygol o wanhau Cymreictod llawer o bentrefi’r ynys, medden nhw.

Gormod o dai?

Yn ôl y Cynllun Datblygu Lleol fe fyddai 7,902 o dai newydd yn cael eu hadeiladu yn y ddwy sir erbyn 2026, a mwy na 3,800 o’r rheiny ar Ynys Môn.

Mae disgwyl y byddai dros 800 o’r cartrefi hynny yn cael eu hadeiladu yng Nghaergybi, 673 yn Llangefni a 533 yn Amlwch.

Yn ogystal â hynny fe fyddai degau o dai newydd yn cael eu codi mewn pentrefi eraill ar yr ynys gan gynnwys Porthaethwy, Llanfairpwll, Gaerwen, Bodedern a Gwalchmai.

Ond yn ôl Dylan Morgan o Gymdeithas yr Iaith Môn, byddai hynny’n golygu ailedrych yn llwyr ar gynlluniau’r cyngor i ad-drefnu ysgolion yn y sir.

‘Gwneud gwahaniaeth mawr’

Byddai cynnydd ym mhoblogaeth y pentrefi hefyd yn gallu “gwneud gwahaniaeth mawr i’r ganran siaradwyr Cymraeg yn y cymunedau hynny”.

“Nid ydym yn derbyn y Cynllun Adnau yn ei ffurf bresennol o gwbl,” meddai Dylan Morgan yn ymateb ysgrifenedig Cymdeithas yr Iaith i’r cynlluniau.

“Ni chredwn eich bod yn dangos tystiolaeth gadarn bod galw cymunedol am y nifer o dai a nodir.

“Ni chredwn chwaith eich bod yn dangos tystiolaeth na fydd y datblygiadau tai yn niweidio sefyllfa’r Gymraeg yn gymunedol.”

Effaith Wylfa Newydd

Ychwanegodd Cymdeithas yr Iaith mai datblygiad gorsaf niwclear Wylfa Newydd oedd y prif ffactor oedd yn cael ei grybwyll gan y cyngor pam oedd angen y tai newydd.

Mynnodd Dylan Morgan hefyd ei bod hi’n “syfrdanol” bod Cyngor Môn yn honni y byddai’r atomfa newydd yn “gwella ansawdd bywyd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac yn hyrwyddo hunaniaeth a nodweddion unigryw lleol”.

Cyfeiriodd ymateb Cymdeithas yr Iaith at y disgwyliad mai dim ond 20% o swyddi adeiladu Wylfa Newydd fydd yn mynd i bobol leol fel tystiolaeth bellach mai nid ateb galw lleol oedd y cynllun tai newydd.

“Twyll yw ceisio honni felly y gallai prosiect Wylfa B fod o unrhyw fudd i ddyfodol y Gymraeg yng nghymunedau Môn a Gwynedd,” ychwanegodd.