Dafydd Elis-Thomas
Mae cyn-Lywydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi dweud nad yw’r blaid wedi gwneud digon i annog pleidleiswyr i droi oddi wrth Lafur at Blaid Cymru.

Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 dywedodd nad yw’n barnu rhai Cymry am bleidleisio dros Lafur ac y dylai Plaid Cymru anelu at gyrraedd yr un llwyddiant a’r SNP yn yr Alban.

Byddai’n hynny, yn ôl y gwleidydd, yn galw am gynnal ymgyrch etholiadol “gwell nag erioed o’r blaen”.

Aeth ymlaen i ddweud nad oedd neges Plaid Cymru yn dod drosodd yn glir ar hyn o bryd, gan fod canlyniad yr etholiad yn ansicr iawn:

“Does gennyf ddim beirniadaeth o benderfyniad pobol Cymru i bleidleisio i’r Blaid Lafur oherwydd mae’n amlwg nad ydyn nhw wedi cael eu darbwyllo ein bod ni fel plaid yn cynnig dewis gwell,” meddai.

Cyfrifoldeb

Ychwanegodd: “Yn yr Alban, mae’n ymddangos o’r arolygon barn fod yr SNP wedi llwyddo i’w darbwyllo. Ein cyfrifoldeb ni yw hynny ac mae’n rhaid i ni gael ymgyrch etholiadol gwell nag erioed o’r blaen.”

Pan ofynnwyd i’r Arglwydd Elis-Thomas a oedd neges etholiadol ei blaid yn glir dywedodd: “Dw i ddim yn credu ei bod o ar hyn o bryd, oherwydd rydym yn ansicr ynglŷn â’r hyn sydd am ddigwydd.

“Rwy’n credu y dylwn ni fod yn hynod o glir, mae’r hyn sydd ei angen yw pwerau llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol a thrawsnewid y berthynas gyda Thrysorlys y DU.

“Mae hyn oll yn bosib, ond dwi’n credu y gwnaiff ddod yn fwy amlwg wedi’r etholiad.”

Daw’r sylwadau wrth i Blaid Cymru gyhoeddi ei maniffesto heddiw.