Mae heddlu Llandudno yn ymchwilio wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad fod dyn wedi ceisio hudo bachgen 8 mlwydd oed y tu allan i siop Asda yn y dre’.
Fe ddigwyddodd tua 8 o’r gloch nos Sadwrn, meddai Heddlu Gogledd Cymru, pan ddaeth dyn – ac mae’n bosib fod ganddo ddyn arall yn gwmni – at y bachgen wrth iddo adael y siop a mynd am y maes parcio.
Fodd bynnag, fe redodd y bachgen i’r car lle’r oedd ei dad yn disgwyl amdano. Dyna pryd y cafodd y mater ei riportio i’r heddlu.
Mae’r dyn wedi’i ddisgrifio fel un yn gwisgo trowsus du, siaced gyda thrim glas ar ei gwaelod, a het am ei ben.