Mae’r gyrrwr rasio o Gaerdydd, Jann Mardenborough wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar drac Nurburgring yn yr Almaen.
Cafodd gwyliwr ei ladd yn y digwyddiad yn ystod ras VLN1 ddydd Sadwrn.
Trodd car Nissan GT-R NISMO GT3 Mardenborough â’i ben i waered ar y trac cyn glanio dros ffens ac i ganol y dorf.
Cafodd dau o bobol eraill eu hanafu.
Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod beth ddigwyddodd cyn y gwrthdrawiad.
Mewn datganiad, dywedodd tîm Nissan: “Yn dilyn y digwyddiadau ofnadwy yn ystod y ras VLN ddoe, mae Nissan yn falch o fod wedi derbyn gwybodaeth fod y ddau wyliwr gafodd eu hanafu wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
“Mae Jann wedi cwblhau cyfres o brofion meddygol ac mae yntau hefyd wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty.”
Ychwanegodd Nissan fod profion yn cael eu cynnal ar y car.
“Hoffai pawb yn Nissan estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu’r unigolyn fu farw ac i’r gwylwyr gafodd eu hanafu.
“Hoffai Nissan hefyd ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i’r cefnogwyr, i’r tîm ac i Jann.”
Cafodd Mardenborough ei gyfle cyntaf i rasio yn 2011 ar ôl ennill cystadleuaeth gyfrifiadurol.
Mae disgwyl i Mardenborough gystadlu am dymor llawn gyda’i dîm eleni am y tro cyntaf, sy’n cynnwys ras 24 awr Le Mans.