Llun o wefan y prosiect
Mae tua 100,000 o fyfyrwyr yng ngwledydd Prydain wedi gweithio yn y diwydiant rhyw, yn ôl ymchwilwyr o Abertawe.

Maen nhw’n galw ar brifysgolion i roi mwy o gefnogaeth i bobol ifanc sydd weithiau’n ofni cydnabod beth yw eu gwaith.

Mae hyd at chwarter y myfyrwyr yn y diwydiant yn teimlo’u bod mewn peryg a chwarter hefyd yn dweud ei bod yn anodd gadael ar ôl dechrau.

Mwy o ddynion na merched

Mae Prosiect Gwaith Rhyw Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael arian Loter i holi 6,750 o fyfyrwyr, gan gynnwys rhai yng Nghymru.

Roedd 5% o’r dynion a 3.5% o’r merched yn dweud eu bod wedi gweithio yn y diwydiant – rhai yn puteinio, rhai yn stripio a rhai yn gweithio ar-lein.

Roedd mwy nag un o bob pump wedi ystyried mynd i’r maes a’r gwahanol resymau’n cynnwys arian, pleser a chwilfrydedd.

‘Y realiti’ meddai arweinydd y prosiect

“Dyma’r realiti, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn swyddi gwaith rhyw – mae honna’n ffaith,” meddai arweinydd y prosiect, Dr Tracey Sagar.

“Ffaith arall yw fod rhai ohonyn nhw angen cyngor, cymorth ac weithiau gefnogaeth i adael y diwydiant.

“Ar hyn bryd mae myfyrwyr yn teimlo cymaint o stigma a beio fel eu bod yn ofni neu’n amharod i ddatgelu eu gwaith i staff a gwasanaethau a allai eu helpu.”