Cofio'r meirw (PA)
Roedd y peilot a yrrodd yr awyren Germanwings yn fwiadol i ochr mynydd yn yr Alpau yn dioddef o iselder ysbryd, yn ôl adroddiad o’r Almaen.
Fe ddywedodd pennaeth cwmni Lufthansa, perchnogion yr awyren, fod y peilot Andreas Lubitz wedi cymryd cyfnod hir i ffwrdd pan oedd yn hyfforddi.
Mae’r cyfryngau yn yr Almaen yn dweud ei fod wedi bod yn brwydro yn erbyn salwch meddwl.
‘Argyfwng’
Yn ôl papur newydd Almaenaidd, Bild, roedd Lubitz, yn mynd trwy “argyfwng yn ei fywyd personol”, gyda phapur newydd Der Spiegel yn dweud ei fod wedi cymryd bwlch yn ei hyfforddiant oherwydd blinder mawr.
Mae’r ymchwiliad i’r ddamwain a laddodd 150 wedi sefydlu bod y cyd-beilot wedi ailosod sustem awtobeilot yr awyren er mwyn gwneud iddi blymio o uchder o 38,000 o droedfeddi i ychydig dros 100 troedfedd.
Ymchwiliad
Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar “amgylchiadau personol, teuluol a phroffesiynol” y peilot i geisio darganfod pam ei fod wedi cloi’r capten allan o’r cocpit a llywio i mewn i’r mynydd.