Prifysgol Caerdydd fydd un o’r partneriaid ar gyfer ras Hanner Marathon Pencampwriaeth y Byd IAAF y flwyddyn nesaf – yr hanner marathon mwyaf i’w gynnal yng Nghymru erioed.

Fe ddaw’r cyhoeddiad wrth i lefydd ymgeisio ar gyfer y ras agor i’r cyhoedd heddiw.

Mae lle i 300 o redwyr proffesiynol a 25,000 o redwyr amatur gymryd rhan yn y ras fydd yn cael ei chynnal ar benwythnos y Pasg, 26 Mawrth 2016.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Dyma gyfle i ddangos y brifysgol a chanol dinas Caerdydd i’r gynulleidfa ryngwladol fawr.

“Yn ogystal â noddi’r digwyddiad, fe fyddwn ni’n gwneud ein rhan mewn mannau eraill hefyd. Mae iechyd cyhoeddus yn rhan fawr o’n gwaith – rydym yn cynnal ymchwil rhyngwladol yn y maes a hefyd yn hyfforddi gweithwyr iechyd y dyfodol.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr yr hanner marathon, Matt Newman: “Gyda’r digwyddiad yn cael ei ddarlledu mewn dros 100 o wledydd, bydd y ras yn gwella proffil Caerdydd ac rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfle hwn.”