Sam Vokes yr wythnos hon (llun: Nick Potts/PA)
Union flwyddyn yn ôl roedd y goliau yn llifo i Sam Vokes gyda Burnley yn y Bencampwriaeth, a llawer o gefnogwyr Cymru’n teimlo bod etifedd teilwng i’r crys rhif naw wedi cael ei ddarganfod o’r diwedd.
Ond yna fe gafodd yr ymosodwr anaf difrifol i’w ben-glin, un a’i cadwodd allan am naw mis gan olygu ei fod yn methu llawer o dymor Burnley yn yr Uwch Gynghrair yn ogystal â dechrau ymgyrch Ewro 2016 Cymru.
Mae wedi bod yn siwrne hir nôl i ffitrwydd i Vokes, a dim ond pythefnos yn ôl y dechreuodd ei gêm gyntaf yn y gynghrair i’w glwb.
Ac mae’n golygu ei fod yntau’n ymuno â gweddill carfan Cymru ar yr awyren sydd yn hedfan heddiw draw i Israel ar gyfer eu gêm ragbrofol hollbwysig.
Mae’r ymosodwr yn cyfaddef fodd bynnag fod cyfnodau ble roedd yn poeni a fyddai’n dychwelyd i’r un safon ar ôl yr anaf.
“Gyda’r math yna o anaf, ychydig flynyddoedd yn ôl byddech chi wedi gorfod ymddeol oherwydd e,” meddai Sam Vokes.
“Mae e’n rhywbeth sy’n mynd drwy’ch meddwl chi wrth i chi drio dod nôl, ond i fi roedd e’n llwyddiannus, nes i ddychwelyd o fewn amserlen resymol, a dw i’n teimlo’n llawer cryfach oherwydd hynny.”
Cadw cysylltiad
Mae’n cyfaddef bod gwylio dechrau addawol tîm Cymru yn dechrau’r ymgyrch ragbrofol wedi bod yn rhwystredig iddo ef, gartref yn eistedd ar y soffa yn hytrach nag ar y cae.
Ond wrth wella o’r anaf llynedd fe wnaeth e ymuno â’r garfan yn ystod yr hydref i ymarfer ac adennill ffitrwydd.
Ac roedd cadw’r cysylltiad hwnnw â chwaraewyr eraill Cymru yn anogaeth fawr i Sam Vokes.
“Rydych chi wastad yn gwylio’r gemau a breuddwydio’ch bod chi allan yna,” meddai’r ymosodwr 25 oed.
“Mae’r rheolwr [Chris Coleman] wedi bod yn wych efo fi, wedi siarad gyda fi tipyn o weithiau yn ystod y rehab – dw i’n meddwl cafodd e anaf tebyg unwaith.
“Roedd e’n wych, fe wnaeth e wahodd fi lawr pump neu chwe mis fewn i’r gwellhad jyst i fod o gwmpas y bechgyn a pharhau i wella fan hyn – roedd e’n newid byd neis.”
Barod i danio
Mae’n debygol y bydd Vokes yn cystadlu gyda Simon Church, Hal Robson-Kanu a David Cotterill am y ddau safle ymosodol ochr yn ochr â Gareth Bale yn nhîm Cymru dydd Sadwrn.
Ac er bod Chris Coleman wedi awgrymu nad oedd Vokes yn barod i chwarae gêm lawn, mae’r ymosodwr ei hun yn hyderus ei fod yn ddigon ffit i bara’r gêm gyfan os oes rhaid.
“Dw i wedi bod yn aros sbel am y gêm yma efo Cymru, flwyddyn ers yr un diwethaf [iddo fo chwarae]. Roedd e’n dda cael ychydig o gemau Prem dan y belt gyntaf,” meddai Vokes.
“Hwn oedd y gêm ryngwladol gyntaf roedd gen i siawns realistig o weithio tuag ati.
“Dw i wedi bod yn adeiladu at y 90 munud … dw i wedi gwneud hynny ar lefel clwb yn barod.”
Israel yw’r ffefrynnau ar gyfer y gêm yn Haifa dydd Sadwrn, a hynny am eu bod nhw ar frig y grŵp rhagbrofol gyda thair buddugoliaeth allan o dair.
Dim ond pwynt y tu ôl iddyn nhw yn yr ail safle mae Cymru, fodd bynnag, ac roedd yr awch i fod yn rhan o ymgyrch allai brofi yn un arbennig yn sbardun ychwanegol i Vokes.
“Dyna beth helpodd fi drwy’r adegau anodd hynny, gwybod mod i eisiau bod yn rhan o bethau ar y llwyfan rhyngwladol unwaith eto,” ychwanegodd yr ymosodwr.
“Roedd hwn wastad yn ymgyrch roedden ni eisiau mynd ag e i’r lefel nesaf, sef cyrraedd twrnament.”