Adam Jones
Bydd y prop Adam Jones yn symud i Loegr i ymuno â chlwb Harlequins ar ddiwedd y tymor, llai na blwyddyn ar ôl arwyddo i Gleision Caerdydd.

Fe gadarnhaodd y Quins heddiw y byddai’r blaenwr 34 oed yn symud iddyn nhw yn yr haf, er i Adam Jones ddweud ei fod wedi derbyn cynigion o Gymru.

Treuliodd y prop 11 tymor gyda’r Gweilch cyn symud i’r Gleision llynedd ar ôl methu cytuno ar gytundeb newydd gyda’r rhanbarth o Abertawe.

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl ennill 95 cap, ar ôl cael ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at y sialens newydd yma,” meddai Adam Jones.

“Rydw i wedi mwynhau fy mlwyddyn gyda’r Gleision ac yn ddiolchgar i’r Bwrdd a Mark Hammett am roi’r cyfle i mi.

“Yn wahanol i adroddiadau’r wasg o Gymru, rydw i wedi cael opsiynau [i aros] fan hyn, ond mae Harlequins yn glwb uchelgeisiol a blaengar sydd â gwerthoedd da.”