Bale yn ymarfer yr wythnos hon (llun: Nick Potts/PA)
Mae amddiffynnwr Cymru Neil Taylor wedi mynnu mai dim ond barn rheolwr a chwaraewyr Cymru fydd Gareth Bale yn cymryd i ystyriaeth wrth baratoi at y gêm fawr yn Israel dydd Sadwrn.

Ers wythnosau mae chwaraewr drytaf y byd wedi bod yn cael ei feirniadu gan gefnogwyr a’r wasg yn Real Madrid am ei berfformiadau diweddar, gyda llawer yn cwestiynu a yw’n haeddu lle yn y tîm.

Ond dyw chwaraewyr Cymru heb sylwi ar unrhyw newid yn hyder Bale ers iddo ymuno â’r garfan yr wythnos hon, yn ôl Neil Taylor.

Ac fe ddywedodd Sam Vokes, sydd wedi dychwelyd i garfan Cymru blwyddyn ar ôl anaf difrifol, ei fod yn ysu am gael chwarae gyda seren y tîm unwaith eto.

Ysu i gyrraedd yr Ewros

Bydd gêm Cymru dydd Sadwrn yn Israel yn debygol o fod yn allweddol yn y ras i gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc, gydag Israel ar y brig a Chymru’n ail ar hyn o bryd, pwynt y tu ôl iddyn nhw.

Ac mae Taylor yn cyfaddef fod Gareth Bale fel petai’n teimlo bod y pwysau ar ei ysgwyddau ef i sicrhau bod y tîm yn cyrraedd y twrnament yn Ffrainc blwyddyn nesaf.

“Mae e’n Gymro balch, mae e yma i bob trip, ac mae’n ysu at gyrraedd twrnament rhyngwladol fel pob un ohonom ni,” meddai Taylor.

“Efallai ei fod o’n teimlo fel bod y pwysau arno fo, fel un o’r chwaraewyr gorau yn y byd, felly mae’n trio’i orau bob tro mae o yma ac yn ceisio dylanwadu ar bob gêm – dyna beth mae’n ei wneud yn Real Madrid hefyd.

“Felly mae Gareth wedi arfer â phwy yw e nawr a’r dylanwad mae e’n ei gael ar dimau. Mae e wir yn arweinydd a ‘dych chi’n gweld fod yr awch yna ganddo i gyrraedd twrnament rhyngwladol.”

Bwydo Vokes

Un chwaraewr fydd yn gobeithio elwa o wasanaeth Bale ar y cae fydd yr ymosodwr Sam Vokes, sydd nôl yn y garfan blwyddyn ers iddo gael anaf difrifol i’w ben-glin.

Er i reolwr Cymru Chris Coleman awgrymu nad oedd Vokes yn ffit i chwarae gêm lawn eto, fe fynnodd yr ymosodwr y byddai’n gallu chwarae 90 munud yn Israel petai angen iddo.

Ac fe gyfaddefodd ei fod yn ysu i fod nôl ar y cae ar lefel ryngwladol gyda seren Real Madrid unwaith eto.

“Rydyn ni i gyd wedi gweld sut mae Gareth wedi datblygu fel chwaraewr ac mae e ymysg y goreuon nawr,” meddai Vokes wrth i’r tîm baratoi am y gêm fawr yn Haifa.

“Rydyn ni’n gwybod ei fod e’n dod a lot i ni ar gyfer y gemau ac ar nodyn personol does dim byd gwell na chwarae gyda’r math yna o chwaraewr.

“Fel ymosodwr mae fy ngoliau diwethaf i dros Gymru wedi dod oddi wrtho fe’n croesi’r bêl i mewn i’r cwrt ac yn mynd lawr yr asgell.

“Mae wastad yn help i fi fel chwaraewr i chwarae ochr yn ochr â rhywun fel yna.”

Mae Vokes hefyd yn disgwyl i Bale arwain yr ymosodwyr ar y cae.

“Mae ganddo’r profiad y chwarae pêl-droed Ewropeaidd bob wythnos. Mae’r bechgyn yn gwrando arno pan mae’n siarad,” ychwanegodd ymosodwr Burnley.

Delio â’r sylw

Mae carfan Cymru i gyd bellach yn gorfod dod i arfer â’r sylw arnyn nhw oherwydd ffactor Bale bellach.

Ond mae Neil Taylor yn ceisio edrych ar yr ochr bositif, gan esbonio bod pêl-droedwyr yn gorfod dysgu i anwybyddu’r sylw negyddol.

“Mae e’n normal i ni nawr, ac mae’n siŵr fydd o’r un peth yn Israel. Roedd pobl wedi campio tu allan i’r gwesty yn Andorra, mae hynny’n normal nawr a dyna sut mae bywyd iddo fo,” meddai Taylor.

“Mae’n grêt i ni gael chwaraewr fel yna sy’n dod o Gymru, a gobeithio fod o wedi arfer â’r sylw nawr.

“Fel pêl-droediwr dy’n ni ddim yn cymryd lot o sylw [o feirniadaeth] … mae adegau lle ‘dych chi’n chwarae’n dda ac adegau ‘dych chi ddim mor dda.

“Os ddarllenwch chi bopeth mae pobl yn sgwennu ‘dych chi ddim am fynd yn bell, bydd e’n clecio’ch hyder – yr unig bobl mae eu barn nhw’n cyfrif yw’r rheolwr a’ch cyd-chwaraewyr.

“Dydi o [Bale] ddim yn mynd i boeni beth dw i’n meddwl o sut mae’n chwarae, yn yr un ffordd dydi o ddim am boeni beth ydi barn gohebydd sydd erioed wedi chwarae gêm!

“Mae’n edrych fel bod e’n delio gyda’r peth yn dda, ac mae’n dod gyda’r job yn real Madrid, mae’n rhaid perfformio bob gêm.”

Ac mae chwaraewyr eraill Cymru yn awyddus i helpu tynnu’r pwysau oddi ar ysgwyddau Bale ar ac oddi ar y cae.

“Fel tîm wrth gwrs ein bod ni’n ceisio’i helpu unrhyw ffordd allwn ni, ond peidiwch anghofio bod chwaraewyr da eraill yma hefyd ar draws y garfan,” ychwanegodd Taylor.