Robert Earnshaw
Mae’r ymosodwr Robert Earnshaw wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 33 oed, ar ôl arwyddo i Vancouver Whitecaps yn yr MLS.
Fe enillodd Earnshaw 58 cap dros Gymru, yr olaf o’r rheiny mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn 2012.
Sgoriodd 16 gôl dros ei wlad yn y cyfnod hwnnw, gan ei roi yn chweched ar restr sgorwyr Cymru ochr yn ochr â Cliff Jones a Mark Hughes.
Dywedodd ei bod hi’n “bleser” ac yn “freuddwyd” gwisgo’r crys coch a chynrychioli Cymru mewn “cymaint o gemau pwysig”.
Trechu’r Almaen
Fe wnaeth Earnshaw argraff yn ei gêm gyntaf dros Gymru yn 2002, gan sgorio unig gôl y gêm i drechu’r Almaen 1-0 mewn gêm gyfeillgar.
Sgoriodd hat tric yn erbyn yr Alban mewn buddugoliaeth o 4-0 yn 2004, y nifer fwyaf iddo sgorio mewn gêm i’w wlad.
Ond bydd cefnogwyr hefyd yn ei gofio am fethu gôl agored mewn gêm ragbrofol yn erbyn Lloegr yn 2011 a gollodd Cymru 1-0.
Roedd yn adnabyddus am ei ddathliadau acrobatig wrth sgorio, ac mae ganddo record fel yr unig chwaraewr i sgorio hat tric ym mhob cynghrair proffesiynol yn Lloegr, Cwpan FA, Cwpan y Gynghrair ac ar lefel rhyngwladol.
Dechreuodd Earnshaw ei yrfa gyda Chaerdydd cyn chwarae i glybiau gan gynnwys West Brom, Derby, Nottingham Forest a Maccabi Tel Aviv.
“Mae wedi bod yn freuddwyd cael y cyfle i gerdded allan o flaen y wlad gyfan a chynrychioli Cymru mewn cymaint o gemau pwysig,” meddai Earnshaw, gafodd ei eni yn Zambia.
“Dw i’n falch o fod wedi gallu chwarae i fy ngwlad am dros ddegawd.
“Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth dw i wedi cael dros y blynyddoedd gan fy nghyd-chwaraewyr, hyfforddwyr a staff Cymru ac fe fydda’i wastad yn ddiolchgar achos rydw i’n gwybod mod i wedi bod mewn safle mae miliynau yn breuddwydio am.
“Fe roddais i bopeth ym mhob munud a rhannu’r pleser o sgorio goliau gyda phobl Cymru. Mae wedi bod yn bleser.”